Ydych chi’n rhan o’r Mwyafrif Byd-eang ac yn byw yng Ngorllewin Cymru?

Ymunwch â ni ddydd Sul 24 Medi yn ‘Over the Rainbow’, Tanygroes rhwng 11yb a 4yp am gyflwyniad i brosiect Lleisiau o’r Ymyl, sy’n dathlu diwylliannau a threftadaeth y mwyafrif byd-eang yng ngorllewin Cymru. Bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth, bwyd a gweithdai celf yn rhad ac am ddim. Bydd costau teithio a ffioedd presenoldeb yn cael eu talu trwy arian grant Casgliadau Cymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol a Llywodraeth Cymru.

Bwriad y diwrnod yw dechrau proses o wella dealltwriaeth a datblygu cysylltiadau cryfach rhwng Amgueddfa Ceredigion a chymunedau mwyafrifol byd-eang. Trwy ddod at ein gilydd gallwn rannu profiadau gwahanol o fyw yng ngorllewin Cymru a rhannu ein diwylliannau gydag eraill.

Os na allwch fynychu ar y diwrnod, cysylltwch â ni am fanylion digwyddiadau yn y dyfodol.

Dywedodd Rose Thorn, Cydlynydd y Prosiect: “Byddwn yn creu partneriaeth creadigol fydd yn gallu cefnogi prosiectau eraill yn yr Amgueddfa i’r dyfodol. Bydd y prosiect yn sicrhau presenoldeb mwyafrif byd-eang yn Amgueddfa Ceredigion a gwella mynediad at ddiwylliant a threftadaeth Gymraeg.”

Ychwanegodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Lleisiau o’r Ymylon yw cam cyntaf yr Amgueddfa i wella dealltwriaeth o bobl y mwyafrif byd-eang sy’n byw a gweithio yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y diwrnod yn ein galluogi ni i roi llais i bobl mwyafrif byd-eang a hwylsuo ymgynghori yn fwy eang ar ein gwaith gan roi ymdeimlad o berthyn i bawb”.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiwylliant: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i’r prosiect hwn. Mae cyfle fel hwn yn cyfrannu at y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru ac ein hymrwymiad fel Cyngor Sir dros gydraddoldeb ac amrywiaeth. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut fydd y prosiect yn datblygu.”

Cynhelir cyfarfod cyntaf Lleisiau o’r Ymylon yn Over the Rainbow, Tanygroes, SA43 2JD ar ddydd Sul 24 Medi rhwng 11yb-4yp. I archebu lle neu i wybod mwy, cysylltwch â Rose Thorn: rosethorn.email@gmail.com / 07815 678 762.

Mae’r prosiect hwn yn gweithredu trwy gyllid wrth Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol a Llywodraeth Cymru.

21/09/2023