Cynhaliodd grŵp o bobl ifanc fore coffi ar 30 Tachwedd 2023 yn Aberaeron.

Mae’r criw yn rhan o grŵp Inspire, sef grŵp ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy’n cael eu cefnogi i ail-afael â chyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

Roedd y digwyddiad yn golygu llawer o waith paratoi gan y bobl ifanc; creu posteri a phamffledi i hyrwyddo’r bore coffi, pobi cacennau, gwneud te a choffi a croesawu gwesteion ar y dydd. Datblygwyd llawer o sgiliau newydd gan y bobl ifanc hynny a oedd yn arwain y digwyddiad, gan gynnwys cydnerthedd, sgiliau cymdeithasol, sgiliau creadigol a gweithio fel rhan o dîm. Roedd y digwyddiad yn un llwyddiannus gyda sawl wyneb cyfarwydd ac asiantaethau gwahanol yn bresennol, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, Ray Ceredigion, Dysgu Bro, The Sanctuary a llawer mwy.

Meddai Rosey Perkins, un o’r bobl ifanc sy’n rhan o’r grŵp Inspire: “Roedd yn llawer o hwyl i gael pobi’r bwyd ac roedd yn grêt i weld pawb yn cydweithio a chynllunio i wneud hyn i ddigwydd. Rwy’n mynychu’r grŵp Inspire yn wythnosol lle rwy’n mwynhau cael y cyfle i wella fy hyder a fy sgiliau. Rydym wedi cael llawer o gyfleoedd fel gwirfoddoli, coginio a llawer mwy. Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf yw dod at ein gilydd fel grŵp yn wythnosol a chael cyfle i fynd allan o’r tŷ a chymdeithasu.”

Ychwanegodd Gwenllian Morris, Rheolwr Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal Cyngor Sir Ceredigion: “Mae digwyddiad fel hyn yn dangos y gwerth a’r effaith mae gwaith ieuenctid yn ei gael ar bobl ifanc Ceredigion. Mae nifer o bobl ifanc yn dibynnu ar y ddarpariaeth ac yn elwa o feithrin llawer o sgiliau a chael cyfleoedd sy’n eu paratoi ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Roedd yn bleser gweld digwyddiad fel hwn yn cael ei gynnal gan ein pobl ifanc. Roedd pawb wedi gweithio’n galed i baratoi’r bwyd a’r lluniaeth blasus. Mae mor bwysig fod pobl ifanc yn cael yr hyfforddiant a’r cyfleoedd i fod yn rhan o ddigwyddiad fel hyn. Mae’n rhoi cyfle iddynt ddysgu doniau newydd a magu hyder wrth baratoi bwyd a’i weini i’r bobl oedd yn bresennol. Edrychwn ymlaen am gael blasu’r nwyddau yma eto yn y dyfodol agos.”

Mae rhaglen ôl-16, Inspire, yn rhaglen ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed. Y nod yw ymgysylltu â phobl ifanc sy’n ceisio cymorth i ailafael ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Mae’r grwpiau Inspire yn cael eu cynnal yn Aberystwyth, Aberaeron ac Aberteifi yn wythnosol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk neu ewch i dudalen @GICeredigionYS ar Facebook, X (Twitter) ac Instagram neu i wefan Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion.

07/12/2023