Mae pobl ifanc o Glwb Ieuenctid Aberaeron wedi codi arian i Ward Plant Angharad yn Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Cara Jones, Gweithiwr Ieuenctid Ceredigion: "Penderfynodd y bobl ifanc sy'n mynychu Clwb Ieuenctid eu bod am godi arian at achos lleol. Penderfynodd y bobl ifanc y byddai'r elw yn cael ei roi i Ward Plant Angharad eleni. Codwyd arian drwy gynllunio eu cardiau Nadolig eu hunain, celf cerrig mân a chônau siocled poeth a’u gwerth mewn ffeiriau Nadolig lleol."

Cyflwynodd Mari a Scarlett, aelodau o glwb Ieuenctid Aberaeron yr arian i'r ward ac fe ddywedon nhw: "Mae Ward Angharad yn cynnig gofal a chefnogaeth wych i lawer o blant a phobl ifanc. Roedd yn hyfryd i ni allu rhoi ychydig yn ôl iddyn nhw a'u staff gwych."

Alun Williams yw Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes. Dywedodd: "Da iawn i bawb a gododd arian ar gyfer achos lleol teilwng. Dwi'n siŵr bod y ward wrth eu bodd gyda'r cyfraniad tuag at eu gwasanaeth hanfodol."

Mae Clybiau Ieuenctid yn cynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac ymlacio gyda ffrindiau mewn amgylchedd diogel a chynhwysol. Mae Clybiau Ieuenctid Aberaeron ac Aberteifi ar agor rhwng 3.30pm a 6.30pm bob dydd Mercher, tra bod Clwb Ieuenctid Aberystwyth ar agor rhwng 3.30pm a 6.30pm bob dydd Iau.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â 01545 570881 neu Porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk, neu gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ar Facebook, Twitter ac Instagram am @giceredigionys

20/03/2023