Bydd siopa Nadolig yng Ngheredigion yn cael hwb eto eleni gyda pharcio am ddim drwy’r dydd ar dri dydd Sadwrn yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Ni fydd yna gostau parcio ym meysydd parcio Talu ac Arddangos a weithredir gan y Cyngor 09, 16, 23 Rhagfyr eleni er mwyn galluogi siopwyr ac ymwelwyr dros gyfnod y Nadolig i gefnogi busnesau lleol y sir ar adeg hanfodol i fusnesau.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar faterion Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: "Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu agor ein meysydd parcio am ddim i helpu i gefnogi busnesau lleol, boed hynny’n siopau, caffis, tafarndai a bwytai yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Mae ein busnesau lleol yn creu profiad siopa Nadoligaidd gwych yn ein trefi ac felly byddem yn annog pawb i wneud y gorau o'r parcio am ddim a siopa’n lleol dros gyfnod yr ŵyl."

Mae'r taliadau yn ein meysydd parcio Talu ac Arddangos yn rhesymol ac yn cael eu gwneud yn gyfleus trwy ddulliau di-arian.

Gallwch weld lleoliadau o holl Feysydd Parcio Talu ac Arddangos a weithredir gan y Cyngor ar ein gwefan www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/parcio-a-gorfodi-parcio-sifil/meysydd-parcio-talu-ac-arddangos/

 

16/11/2023