O 17 Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt yng Ngheredigion ac ar draws Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y terfyn cyflymder diofyn i wneud strydoedd yn fwy diogel drwy leihau’r tebygolrwydd o wrthdrawiadau – a marwolaethau neu anafiadau yn sgil hynny, er y bydd rhai ffyrdd yn parhau i fod ar 30mya a byddant yn cael eu galw'n eithriadau.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymgynghori â chymunedau yn gynharach eleni ar ba ffyrdd fydd yn cadw eu terfyn cyflymder presennol. Gellir gweld y ffyrdd a fydd yn newid i'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya yng Ngheredigion yma: https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/view#/ neu www.ceredigion.gov.uk/public-it/traffic/Map%20Ymgynghori-Consultation%20Map.html

Mae Ceredigion eisoes wedi cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya mewn rhai ardaloedd fel rhannau o Aberystwyth, Aberteifi, Ceinewydd ac wrth lawer o ysgolion y sir oherwydd y manteision iechyd cydnabyddedig.

Amcangyfrifodd astudiaeth iechyd cyhoeddus yng Nghymru y gallai'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya arwain at:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau
  • arbed 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn
  • osgoi 1,200 i 2,000 o bobl rhag cael eu hanafu bob blwyddyn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, Lee Waters: "Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir iawn – mae lleihau terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae cyflymder arafach hefyd yn helpu i greu cymuned fwy diogel a chroesawgar, gan roi'r hyder i bobl gerdded a beicio mwy, gwella eu hiechyd a'u lles wrth ddiogelu'r amgylchedd."

Y Cynghorydd Keith Henson yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Briffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: "Bydd y terfyn cyflymder newydd o 20mya yn newid sylweddol i fodurwyr. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio y bydd y newid yn cael effaith gadarnhaol ar feicwyr a cherddwyr fel plant, pobl ag anableddau a phobl hŷn.

“Rydym yn wynebu heriau mawr wrth sicrhau llesiant corfforol a meddyliol ein cenedl nawr a llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae cynyddu lefelau cerdded a beicio yn cynnig ffordd syml iawn o'n helpu i gyflawni hyn. Mae'n cynnig ffordd syml o adeiladu gweithgarwch corfforol i fywydau bob dydd a dod â gwelliannau iechyd cysylltiedig. Mae'n lleihau traffig moduro a llygredd aer, allyriadau carbon a thagfeydd ac mae'n helpu i wneud i bobl a chymunedau deimlo'n fwy diogel a chysylltiedig a rhoi hwb i fusnesau lleol."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am 20mya ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru/byddwch-yn-barod-ar-gyfer-20mph-beth-am-inni-edrych-ar-ol-ein-gilydd

07/08/2023