Bydd premiymau’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yng Ngheredigion yn newid o fis Ebrill 2024 ymlaen.
Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, a ddenodd dros 1,400 o ymatebion.
Ffurfiodd canlyniadau’r ymgynghoriad ran o’r adroddiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod Cabinet ar 05 Rhagfyr 2023 ac yna i gyfarfod y Cyngor Llawn ar 14 Rhagfyr 2023.
Gwnaed y penderfyniadau canlynol gan y Cyngor Llawn ar 14 Rhagfyr 2023:
Eiddo Gwag Hirdymor:
Bydd y Premiwm Treth Gyngor bresennol o 25% yn cynyddu, a hynny o 01/04/24 ymlaen, i:
- 100% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers pum mlynedd neu lai.
- 150% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros bum mlynedd a hyd at ddeg mlynedd (gan gynnwys deg mlynedd).
- 200% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros ddeg mlynedd.
Bydd pob cyfnod amser yn cynnwys y cyfnod cychwynnol cyntaf o 12 mis cyn bod annedd yn cael ei diffinio yn Eiddo Gwag Hirdymor am nad yw'n cael ei meddiannu a heb fawr o ddodrefn.
Ail Gartrefi
Bydd y Premiwm Dreth Gyngor presennol o 25% yn cynyddu i:
- 100% o 01/04/24 ymlaen, ac yna i
- 150% o 01/04/25 ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r penderfyniad a wnaed heddiw yn benllanw cyfnod hir o ymgynghori, trafod a chasglu tystiolaeth. Rwy’n ffyddiog y bydd y newid yn gam cadarnhaol ymlaen i fynd i’r afael ag eiddo gwag hirdymor, gyda’r gobaith o sicrhau bod cyflenwad da o dai ar gael ar y farchnad ar gyfer ein pobl leol. Mae’r premiwm ar ail gartrefi hefyd yn adleisio cyfraddau tebyg mewn siroedd cyfagos, gan olygu na fyddai Ceredigion yn dod yn eithriad o ran cyfraddau isel ar hyd arfordir Cymru.”
Am ragor o wybodaeth ac i ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i'n gwefan: Cyfarfod y Cyngor, 14 Rhagfyr 2023
14/12/2023