“Dyma flwyddyn arall wedi gwibio heibio, ac am flwyddyn i fod yn falch ohoni ar sawl ystyr.

Mae sawl prosiect cyffrous wedi dwyn ffrwyth yn ystod y flwyddyn gan ddod â budd i drigolion a chymunedau Ceredigion.

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi bod yn falch o weld lansiad rhaglenni Arfor, Sbarc a Llwyddo’n Lleol i gefnogi mentergarwch a datblygu'r economi leol i gryfhau cadarnleoedd y Gymraeg yma’n y sir. Yn ychwanegol at hyn, mae rhan gyntaf cyllid Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi cael ei ryddhau i helpu economi'r sir.

Penllanw misoedd o waith oedd gweld cartref Gofal Hafan y Waun yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth y Cyngor, gan sicrhau bod adnodd mor werthfawr yn parhau yn y sir ar gyfer ein poblogaeth hŷn. Yn yr un modd, rwy’n falch gweld y gwaith yn dechrau ar adeiladu ysgol newydd sbon yn Nyffryn Aeron, ynghyd â’r datblygiadau i adnewyddu Neuadd y Farchnad Aberteifi. Gwych hefyd yw gweld y peiriannau’n bwrw ati i wella amddiffynfeydd yr arfordir yn Aberaeron.

Agorwyd Canolfan Les Llambed yn gynharach yn y flwyddyn, a dyma’r cyntaf o’i math yn y sir sy’n darparu gwasanaethau i wella iechyd meddyliol, cymdeithasol a chorfforol unigolion i gyd o dan un to. Byddwn nawr yn troi ein golygon at agor ail ganolfan les yn Aberteifi. Rydym yn falch hefyd o ddarparu prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion Blwyddyn 6 ac iau, gan sicrhau ein bod ymhell ar y blaen o ran targed Llywodraeth Cymru.

Ymhlith y newyddion eraill, rydym wedi lansio cynllun arloesol i gefnogi pobl i gael mynediad at dai fforddiadwy yn y sir, sef Cynllun Tai Cymunedol Ceredigion, ac mae grantiau ar gael i adnewyddu eiddo gwag. Os yw’r materion hyn o ddiddordeb neu’n effeithio arnoch chi, cofiwch gysylltu â ni.

Wrth droi ein golygon at 2024, mae’r darlun ariannol yn hynod o heriol, hyd yn oed yn fwy heriol na’r adeg hon y llynedd. Ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld diffyg sylweddol yn y gyllideb ar gyfer 2024-25, ac er y byddwn yn dal ati i geisio ffyrdd arloesol i ddarparu’r gwasanaethau sy’n ein gwneud yn falch i fyw yng Ngheredigion, fe fydd er hynny rhai penderfyniadau hynod o anodd i’w gwneud yn y flwyddyn newydd.

Fodd bynnag, mae yna lu o ddigwyddiadau i edrych ymlaen atynt hefyd yn ystod y flwyddyn. Ceredigion fydd sir nawdd Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru yn 2024 ac edrychwn ymlaen at gefnogi’r holl ddigwyddiadau a ddaw yn sgil hynny. Yna, bydd cymal o bencampwriaeth Rali Ewrop yn cael ei chynnal yng Ngheredigion cyn diwedd y flwyddyn gan ddod â hwb ariannol sylweddol i’n heconomi.

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant am waith yr Aelodau Etholedig a staff y Cyngor dros y flwyddyn a fu i gynnal a darparu gwasanaethau o safon i drigolion Ceredigion. Gobeithio y cewch chi, bobl Ceredigion, seibiant haeddiannol dros gyfnod yr ŵyl. Efallai y bydd cyfle i grwydro’r sir a cherdded Llwybr yr Arfordir a ddathlodd ei ben-blwydd yn 15 oed yn 2023.

Oes, mae gan Geredigion gymaint i fod yn falch ohono.

Dymuniadau gorau i chi dros gyfnod yr ŵyl a blwyddyn newydd dda ar gyfer 2024.”

Y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion

28/12/2023