“Mae yna lawer o blant a fyddai’n elwa o’ch profiadau bywyd, o ba bynnag gefndir rydych chi’n dod.”

Adleoli, ymddeol, ailbriodi, neu'n syml iawn, eisiau rhoi yn ôl i'r gymuned leol.

Mewn cyfres newydd sbon o vlogiau, mae gofalwyr maeth o bob rhan o Gymru wedi dod at ei gilydd i archwilio’r rhesymau, profiadau bywyd a newidiadau a arweiniodd at ddod yn ofalwyr.

Bydd y gyfres chwe phennod yn galluogi darpar ofalwyr maeth i gydnabod y profiadau bywyd gwerthfawr sydd ganddynt eisoes, a allai eu helpu i ddod yn ofalwyr maeth cyflawn a chefnogol yn eu cymunedau.

Mae’r gyfres wedi’i chynhyrchu gan Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw, sy’n cynnwys y 22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru.

Bydd y penodau’n cael eu rhyddhau’n wythnosol ar wefan Maethu Cymru, cyfryngau cymdeithasol a sianeli YouTube, ac yn darparu sgwrs onest ac agored rhwng gofalwyr maeth o bob cefndir.

Recordiwyd y sgyrsiau ym mis Rhagfyr 2022, gyda’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd profiadol Mai Davies yn cynnal y sgyrsiau.

Stori Cath

Mewn un bennod arbennig o deimladwy mae Cath o Sir Ddinbych yn trafod ei thaith.

Dywed Cath ei bod yn ymwybodol bod gan rai pobl syniad yn eu pen o sut olwg sydd ar faethu. “Rwy’n meddwl bod canfyddiad pobl o fod yn ofalwr maeth yn rhywbeth nad ydyn nhw. Mae llawer o bobl yn dweud pan fyddwch chi allan, 'Byddwn i wrth fy modd yn bod yn ofalwr maeth ond dwi ddim yn siŵr' ac rydw i bob amser yn dweud, ffoniwch i ofyn, fydd neb byth yn curo ar eich drws yn gofyn os ydych am fod yn ofalwr maeth. Mae rhai o’r plant hyn wedi cael profiadau erbyn eu bod yn 5 oed na fydd pobl byth yn eu cael yn eu bywydau, a’r cyfan sydd ei angen yw cael yr empathi, y ddealltwriaeth a’r agwedd anfeirniadol honno.”

Stori Jenny

Yn y cyfamser dechreuodd Jenny o Sir y Fflint faethu pan oedd yn 66 oed ar ôl i'w gŵr farw, ar ôl meddwl i ddechrau y gallai fod yn rhy hen. Nawr, mae Jenny yn meddwl bod gan ei hoedran fanteision wrth faethu. “Lle dw i’n byw, bydd y plant ar y stryd yn chwarae gyda’r plant sy’n dod ata i, a byddan nhw’n dweud, ‘ai dy Nain di yw honna?’ Ac wrth gwrs, maen nhw’n dweud ie achos mae’n haws, does dim rhaid iddynt ddweud; wel na mewn gwirionedd hi yw fy ngofalwr maeth ac mae hi'n gofalu amdana i, oherwydd mae hynny'n lletchwith. Maen nhw'n fy ngweld i fel rhyw fath o ffigwr tebyg i nain, ac rydw i'n eu difetha nhw dipyn oherwydd dyna beth yw pwrpas mam-gu.”

Mae Jenny hefyd yn siarad yn gynnes am lefel y cymorth sydd ar gael gan yr awdurdod lleol a hefyd y gymuned gofal maeth. “Dydy pobl ddim yn deall lefel y gefnogaeth, nid yw’n ymwneud â gweithwyr cymdeithasol yn eich cefnogi yn unig, mae’n ymwneud â gofalwyr maeth eraill yn eich cefnogi oherwydd eich bod yn gwneud ffrindiau yn y gymuned. Bydd pobl eraill sydd â phrofiadau gwahanol yn gallu eich cynghori ar sut i weithio gyda phlant penodol oherwydd eu bod wedi cyfarfod â phlant tebyg o’r blaen.”

Stori Roger

Mae Roger, 70, yn byw yng Ngheredigion yn ac teimlo bod ei brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi ei arwain at fod eisiau helpu a gofalu am blant maeth.

Dywedodd Roger: “Ces i ddim plentyndod hapus, ac rydw i’n teimlo y byddwn i’n hoffi helpu plant nad ydyn nhw’n cael plentyndod hapus, mae yna empathi iddyn nhw."

Fel gofalwr maeth sengl, mae Roger yn dweud, er y gall fod yn anodd ar adegau, y gall fod â’i fanteision hefyd. “Mae rhywfaint o ragfarn o hyd ynghylch dynion yn maethu ar eu pen eu hunain. Mewn rhai ffyrdd, mae’n haws maethu ar eich pen eich hun gan nad oes rhaid i bwyllgor dau berson wneud popeth, gallwch chi wneud y penderfyniadau ac mae’r cyfrifoldeb yn amlwg yn disgyn arnoch chi, ond mae’n symlach. Mae fel bod yn rhan o dîm, rwy’n meddwl fel gofalwr sengl, heb y tîm ni allech chi ei wneud.”

Maethu Cymru

Dywedodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope: “Mae gennym ni ofalwyr maeth o bob cefndir yn gofalu am ein plant o fewn Maethu Cymru. Rydym angen pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau ac sydd ag amrywiaeth o brofiadau bywyd i faethu oherwydd mae gennym ystod amrywiol o blant sydd angen y gofal, y gefnogaeth a’r cariad hwnnw o fewn ein hawdurdodau lleol - plant sydd angen y cyfle i ffynnu ac aros yn eu cymunedau lleol eu hunain. Dyna hanfod maethu ar gyfer eich awdurdod lleol. P'un a ydych wedi meddwl am faethu yn ddiweddar neu am y deng mlynedd diwethaf, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n cysylltu â'ch tîm Maethu Cymru lleol. Byddwn yn eich helpu i ystyried ai nawr yw'r amser i chi a byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd ar hyd eich taith faethu."

Gwyliwch pennod 1 o Aberteifi yma.

I ddarganfod mwy am faethu yng Ngheredigion, ewch i dudalen Maethu Cymru - Ceredigion neu ffoniwch 01545 574000.

25/01/2023