Mae Masnachwr Twyllodrus, a ddisgrifiwyd gan ei ddioddefwyr fel lleidr, celwyddgi a thwyllwr, wedi cael ei garcharu am 32 mis yn dilyn erlyniad llwyddiannus a gyflwynwyd gan Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin.

Ymddangosodd Danny Vaughan McClelland o Gilcennin, Llanbedr Pont Steffan, gerbron Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB yn Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu ar ôl cyflwyno pledion euog ar gyfer tri chyhuddiad o dwyll mewn gwrandawiad cynharach a chafodd ddedfryd o garchar ar unwaith.

Gwnaeth ymchwiliadau gan Wasanaethau Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ddarganfod bod Danny McClelland wedi cyflawni twyll yn erbyn pensiynwyr o Fronwydd, Sir Gaerfyrddin a'r Borth, Ceredigion rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2021. Ar adeg y troseddu, roedd McClelland, a oedd yn masnachu fel Weathershield Roofing and Property Maintenance eisoes yn destun dedfryd ohiriedig am droseddau tebyg.

Dywedwyd wrth y llys sut roedd McClelland wedi twyllo pensiynwyr ar ôl gwneud gwaith diangen ac o ansawdd gwael ar eu toeau. Roedd McClelland wedi codi dros £20,000 o dâl ar y dioddefwyr, ac roedd ei waith diffygiol wedi golygu bod yn rhaid iddynt dalu costau unioni gwerth dros £10,000.  Disgrifiwyd ei waith gan syrfewyr siartredig fel gwaith diangen ac nid o safon y disgwylir gan gontractwr cymwys. Dywedodd y syrfëwr, sef y tyst arbenigol, nad oedd y gwaith a wnaed gan McClelland mewn un achos, lle'r oedd wedi codi £14,750, o unrhyw werth o gwbl heblaw am werth posibl y deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio.  Cododd McClelland £1,750 ar un pâr am 2½ awr yn unig o waith diangen, ac yn y trydydd achos mynnodd fod dioddefwr yn ei dalu ar unwaith ar ôl iddo godi to'r tŷ.

Dywedwyd wrth y llys hefyd sut roedd McClelland wedi cael rhybudd yn flaenorol yn 2018 am droseddau'n ymwneud â diogelu defnyddwyr.  Cafodd ddedfryd ohiriedig ym mis Rhagfyr 2020 ar ôl pledio'n euog i drosedd o dwyll yn erbyn gweddw ddall o Geredigion. Fodd bynnag, nid oedd McClelland wedi cymryd sylw o'r rhybudd hwnnw gan y llys, ac aeth ymlaen i gyflawni rhagor o droseddau y cyhuddwyd ef ohonynt yn Llys y Goron Abertawe.

Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB fod y diffynnydd wedi twyllo nifer o gwsmeriaid oedrannus mewn 3 eiddo gwahanol. Roedd Mr McClelland yn adeiladwr twyllodrus a oedd yn dychryn ac yn bwlio'i ddioddefwyr, gan gymryd cynilion pobl a oedd wedi gweithio'n galed ac yn onest ar hyd eu bywydau a'u gadael yn drist, yn ddig ac yn ofidus.  Roedd wedi difetha eu bywydau yn eu blynyddoedd olaf a'r cyfan oll ar ôl cyflawni troseddau tebyg yn y gorffennol ac yn ystod dedfryd ohiriedig. 

Gwnaeth y barnwr ddedfrydu McClelland i ddwy flynedd ac wyth mis yn y carchar am y cyhuddiad cyntaf. O ran y ddau gyhuddiad arall, cafodd 16 mis o garchar am bob achos a thri mis am dorri'r ddedfryd ohiriedig, a bydd yr holl ddedfrydau'n cydredeg.

Ategodd Y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiogelu'r Cyhoedd, sylwadau'r barnwr a dywedodd: “Mae'r rhan fwyaf o weithwyr yn barchus ac yn ddibynadwy ond mae unigolion fel McClelland yn tanseilio'r ymddiriedaeth honno. Ar adeg pan fo llawer o aelwydydd yn cael trafferthion ariannol, mae'r achos hwn yn dangos y gwaith gwerthfawr y mae ein gwasanaeth safonau masnach yn ei wneud i amddiffyn unigolion yn ein cymuned rhag masnachwyr twyllodrus, a gobeithiaf fod y gollfarn hon yn rhoi neges glir i unrhyw fasnachwyr diegwyddor y byddwn yn cymryd camau i atal y math hwn o weithgareddau troseddol.”

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Gadewch i hyn fod yn rhybudd i'r holl fasnachwyr twyllodrus sy'n ceisio twyllo'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, byddwn yn dod ar eich ôl chi. 

“Hoffwn ddiolch i'n Tîm Safonau Masnach am fynd ar drywydd yr achos hwn a chael cyfiawnder i'r dioddefwyr. Hoffwn ddiolch hefyd i Wasanaeth Safonau Masnach Ceredigion am eu cymorth gyda'r achos hwn.”

Mae Tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynghori preswylwyr sy'n chwilio am grefftwr sydd wedi'i wirio a'i gymeradwyo gan Safonau Masnach i ddod o hyd i fusnes ar y wefan Prynu â Hyder.

Gall busnesau yn Sir Gaerfyrddin sy'n dymuno gwneud cais i ymuno â'r cynllun Prynu â Hyder ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen Prynu â Hyder y Cyngor.

01/08/2023