Cafwyd noson fythgofiadwy dan ofal Gwasanaeth Cerdd Ceredigion nos Fawrth, 28 Mawrth 2023.

Cynhaliwyd y cyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth lle bu bron i ddau gant o bobl ifanc Ceredigion yn perfformio fel rhan o'r cyngerdd mawreddog.

Dan Edwards-Phillips yw Rheolwr Gwasanaeth Cerdd Ceredigion. Dywedodd: “Roedd yn noson o ddathliad cerddorol, a oedd yn emosiynnol ac yn brofiad gwerthfawr tu hwnt i’r plant sydd wedi methu bod ar lwyfan a cholli allan ar brofiadau fel hyn ers cymaint o amser.”

Y Cynghorydd Wyn Thomas yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Profiad gwefreiddiol oedd bod yn bresennol yn y gyngerdd arbennig hon. Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan ar ôl sawl blwyddyn. Mae bod yn rhan o'r gwasanaeth cerdd yn gallu rhoi cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain drwy gerddoriaeth a gwella eu hiechyd meddwl a'u lles. Edrychaf ymlaen at fwynhau llawer mwy o berfformiadau tebyg gan ein Gwasanaeth Cerdd llwyddiannus i’r dyfodol.”

Cysylltwch â Dan Edwards-Phillips ar dan.edwards-phillips@ceredigion.gov.uk os ydych am fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Cerdd.

 

03/04/2023