Cymerodd 30 o ddisgyblion Ceredigion ran yng Nghynllun Bwyd a Hwyl Y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn Ysgol Llwyn yr Eos yr haf hwn.

Mae’r Cynllun Bwyd a Hwyl, sef menter gan CLlLC, yn rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu addysg am fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach i blant yn rhad ac am ddim yn ystod gwyliau’r haf.

Croesawodd Ysgol Llwyn yr Eos, a dreialodd y cynllun gyntaf yn 2019, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, 30 o blant ynghyd â’u teuluoedd i’r cynllun yn ystod yr haf. Rhedodd y cynllun am dair wythnos, gan gynnig amserlen gyffrous o weithgareddau a phrydau iach i'w gyfranogwyr. Ar ddiwedd pob wythnos, roedd cyfle i deuluoedd ymuno â’u plant yn yr ysgol am ginio teulu. Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau fel pêl-droed, chwaraeon aml-sgiliau, zumba, celf a chrefft, peintio crochenwaith, blasu bwyd, crefftau natur, chwarae, rownderi a mwy.

Dywedodd Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Cefais gyfle i ymweld â’r Cynllun Bwyd a Hwyl yn Ysgol Llwyn yr Eos yn ystod yr haf. Roedd yn wych gweld y plant yn cael cymaint o hwyl ac roedd y cinio teulu hefyd yn llwyddiant. Roedd y cynllun yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i blant gael hwyl, cymdeithasu a dysgu am eu hiechyd a'u lles. Mae’r cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus wrth bontio’r bwlch ar gyfer llawer o ddisgyblion dros wyliau’r haf a gobeithiwn allu ymestyn y cynllun i ysgolion cymwys eraill yn y sir y flwyddyn nesaf fel gall hyd yn oed mwy o blant a phobl ifanc elwa.”

Dywedodd Rebeca Davies a Rachel Cutler, Cydlynwyr Bwyd a Hwyl: “Roedd yn wych gallu cynnig y cynllun i rai o ddisgyblion blwyddyn pedwar, pump a chwech yr ysgol yn ystod gwyliau’r haf. Yn aml gall gwyliau’r haf deimlo fel amser hir i blant ac felly gwelsom werth mewn rhedeg y cynllun hwn i deuluoedd. Cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu sgiliau a chael profiadau newydd. Yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, aethon ni i nofio a hefyd cael ymweliad gan y ci heddlu a’r injan dân.

Hoffem ddiolch i archfarchnad Morrisons am wneud cyfraniad tuag at y bagiau bwyd ac i Ganolfan Hamdden Plascrug am ddarparu talebau nofio teulu i’r plant fynd adref gyda nhw ar ddiwedd y cynllun, i’r holl ddarparwyr fu’n ynghlwm â’r gweithgareddau ag i Wasanaeth Arlwyo’r Awdurdod Lleol am baratoi prydiau iach a blasus yn ddyddiol ar gyfer y plant a’u teuluoedd.”

22/09/2023