Mae’r canlyniadau TGAU a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn cyrraedd safonau uchel.

Mae 97.2% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A*-G; 68.6% wedi ennill graddau A*-C a 24.8% wedi ennill graddau A*-A.

Datganodd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am y Gwasanaeth Ysgolion: “Gall disgyblion Ceredigion ymfalchïo yn eu canlyniadau eto eleni. Mae ysgolion wedi, ac yn parhau i, wynebu amryw o heriau, felly mae cynnal safonau yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae angen llongyfarch llywodraethwyr, arweinwyr ysgol, athrawon a chynorthwywyr ar eu gwaith caled, eu dygnwch a’u harbenigedd. Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb gyda’u dewisiadau am y dyfodol, pa bynnag lwybr byddwch yn ei ddilyn.”

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r ffigurau cymharol. Nid yw’r canlyniadau hyn yn cynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae ffigurau Cymru yn cynnwys pob bwrdd arholi tra bod ffigurau Ceredigion yn cynnwys CBAC yn unig.

 

Ceredigion

Cymru

 

Gradd A*-A

24.8%

21.7%

Gradd A*-C

68.6%

64.9%

Gradd A*-G

97.2%

96.9%

Ychwanegodd Clive Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion: “Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion ar eu hymdrechion cydwybodol unwaith eto eleni. Braf iawn yw gweld canlyniadau mor gadarnhaol sy’n ffrwyth llafur cydweithio effeithiol rhwng pawb sy’n rhan o daith addysgol pob unigolyn. Mae gwaith diflino’r staff ar draws Ceredigion, cefnogaeth y rhieni/gwarcheidwaid a dyfalbarhad ein pobl ifanc i’w gydnabod a’i ddathlu.”

24/08/2023