Mae’r canlyniadau Safon Uwch a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn cyrraedd safonau uchel.

Mae 99.1% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC wedi derbyn graddau A*-E; 82.5% wedi ennill graddau A*-C; 61.4% wedi ennill graddau A*-B a 37.5% yn ennill graddau A*-A.

Datganodd y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am y Gwasanaeth Ysgolion: “Unwaith yn rhagor, mae disgyblion Ceredigion wedi llwyddo’n dda yn eu canlyniadau Safon Uwch ac estynnaf fy llongyfarchiadau gwresog i bob un ohonynt ynghyd â fy niolch diffuant i’r holl athrawon a chymorthyddion sydd wedi eu helpu a’u cynghori yn eu cyflawniad. Pa bynnag lwybr y byddant yn dewis, dymunaf yn dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r ffigurau cymharol. Nid yw canlyniadau hyn yn cynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae ffigurau Cymru yn cynnwys pob bwrdd arholi tra bod ffigurau Ceredigion yn cynnwys CBAC yn unig.

 

Ceredigion

Cymru

 

Gradd A*-A

37.5%

34.0%

Gradd A*-B

61.4%

n/a

Gradd A*-C

82.5%

n/a

Gradd A*-E

99.1%

97.5%

Ychwanegodd Elen James, Prif Swyddog Addysg Ceredigion: “Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Ceredigion ar ganlyniadau Safon Uwch, BTEC ac UG ardderchog eleni eto. Rydym yn hynod falch o’u hymdrechion, mae eu gwaith caled, eu dycnwch a’u huchelgais yn cael eu hadlewyrchu mewn canlyniadau rhagorol a haeddiannol iawn.

“Diolch i’r holl staff am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i roi’r profiadau addysgu a dysgu gorau i’n disgyblion a diolch hefyd i’r holl deuluoedd/gwarchodwyr am eu cefnogaeth. Rydym yn dymuno’r gorau i’n holl ddisgyblion ar gyfer eu dyfodol, boed yn astudio gradd mewn Prifysgol, yn dilyn prentisiaeth neu yn symud i fyd gwaith.”

17/08/2023