Yn dilyn agoriad llwyddiannus Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan, y cyntaf o’r fath yn y sir yn gynharach eleni, gwahoddir trigolion i rannu eu barn ar ail Ganolfan Lles y sir.

Gwahoddir trigolion i rannu eu barn ar ba wasanaethau a gweithgareddau yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnig yn yr ail Ganolfan Lles yn Aberteifi.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: "Mae creu Canolfannau Lles yn agwedd allweddol ar Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, ac mae gwella iechyd a lles ein trigolion yn flaenoriaeth i ni fel awdurdod lleol. Bydd y Canolfannau Lles yn chwarae rhan sylweddol wrth gyflawni ein Hamcanion Llesiant drwy alluogi trigolion i gael mynediad at wasanaethau sy'n gwella eu lles corfforol, emosiynol a meddyliol.

"Mae’r hyn sydd ei angen ar bobl yn wahanol ar draws y sir, felly mae'n bwysig bod pob Canolfan Lles wedi'i chynllunio i ddiwallu'r anghenion lleol hynny. Mae cysylltu â thrigolion y sir a chlywed beth maen nhw am ei gael o’r gwasanaeth yn rhan bwysig o'r broses ddatblygu a byddwn yn annog cymaint o bobl â phosibl i gwblhau'r arolwg.”

Mae cyfle i drigolion ddweud eu barn ar-lein hyd at 31 Rhagfyr 2023. Gellir cwblhau’r arolwg ar-lein yma: https://tinyurl.com/CanolfanLlesAberteifi2il

Mae copïau papur ar gael yng Nghanolfan Hamdden Teifi, Llyfrgell y sir yn Aberteifi, Canolfan Gofal Integredig Aberteifi a Llyfrgell Llandysul. Ar gyfer fformatau eraill, cysylltwch â Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic ar 01545 570 881 neu clic@ceredigion.gov.uk. Bydd cyfle hefyd i drafod mewn grwpiau ffocws.

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal gan Alliance Leisure ar ran y Cyngor ac yn cael ei hariannu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy Raglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac fel rhan o Raglen Gyfalaf ehangach Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/canolfan-lles-aberteifi/

 

29/11/2023