Bydd y pyllau nofio yng Nghanolfan Hamdden Plascrug yn cau dros dro ar gyfer gwaith uwchraddio hanfodol i wella'r cyfleusterau a gynigir i'r cyhoedd.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 11 a 15 Rhagfyr 2023 i wella phibellau’r pwll nofio.

Er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, bydd angen cau'r ddau bwll am gyfnod byr. Dewiswyd y cyfnod dan sylw er mwyn cwtogi ar yr effaith ar ddefnyddwyr, gyda'r nod o ailagor cyn gwyliau'r Nadolig.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae’r pyllau nofio yng Nghanolfan Hamdden Plascrug yn boblogaidd iawn ymhlith pobol o bob oed ac o bob man ar draws gogledd y sir. Rydym am wella'r cyfleusterau a gynigir yma, ac wedi dewis yr amser penodol hwn er mwyn lleihau'r effaith ar nofwyr. Mae Pwll Nofio Plascrug, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 50 yn ddiweddar, yn adnodd hynod o bwysig, ond er mwyn cadw safon y pyllau mae’n rhaid cau dros dro. pyllau nofio

Bydd y cyfleusterau eraill yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, fel yr ystafell ffitrwydd, cyrtiau sboncen a’r neuadd chwaraeon yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod hwn.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn ailagor y pyllau ar gyfer gwyliau'r Nadolig. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth i ni geisio gwella eich profiad o ddefnyddio pwll nofio Plascrug.

I wneud ymholiadau pellach, cysylltwch â Clic ar 01545 570 881 neu anfonwch e-bost i clic@ceredigion.gov.uk. Bydd diweddariadau ar y gwaith yn cael eu rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrif @CeredigionActif.

05/12/2023