Cafodd disgyblion Ceredigion o bob rhan o'r sir gyfle i ddylunio cerdyn Nadolig fel rhan o gystadleuaeth dylunio cardiau Nadolig yn ddiweddar.

Dyluniodd y disgyblion gerdyn Nadolig arbennig ar gyfer y Cynghorydd Maldwyn Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion 2023-24 i'w ddosbarthu i'w gysylltiadau yn ystod cyfnod y Nadolig.

Cafwyd ymateb rhagorol gyda dros 300 o geisiadau gyda 5 ohonynt yn cael eu dewis fel y dyluniadau buddugol.

Llongyfarchiadau mawr i’r dylunwyr buddugol: Jessie Robbins, Ysgol Gynradd Aberporth; Mostyn Jones, Ysgol Gynradd Cenarth; Duncan Spooner, Ysgol Henry Richard; Quinn Brown, Ysgol Dyffryn Cledyn a Trefor Davies, Ysgol Henry Richard.

Derbyniodd pob ysgol wobr ariannol gan y Cadeirydd.

Gwasanaeth Dinesig

Yn gynharach eleni, cynhaliodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis, Wasanaeth Dinesig lle derbyniwyd rhoddion tuag at yr Uned Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais, achos sy’n agos iawn at galon y Cynghorydd Lewis. Cyflwynwyd siec o £2,100 i’r staff yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais.

Yn 2008, cafodd y Cynghorydd Lewis ddiagnosis o Lewcemia Myeloid Cronig a disgrifiodd y gofal a gafodd yn Ysbyty Bronglais, yn enwedig yr Uned Heamatoleg, yn ystod cyfnod anodd a heriol iawn, fel un "rhagorol".

Dywedodd: "Mae gofal ac empathi'r staff yn Ysbyty Bronglais gyda’r gorau. Mae pob aelod o staff yn gwbl ymroddedig i ddarparu'r gofal gorau posibl a sicrhau bod cleifion mor gyfforddus â phosibl. Rhaid i mi fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i un Nyrs yn arbennig, a fydd yn ymddeol yn y dyfodol agos, Nyrs Eirian Gravell. Heb ei chefnogaeth cyson, ei hymroddiad a'i gwydnwch pur, gallai fy nhaith i wella fod wedi bod yn wahanol iawn. Mae'r nyrs Eirian, gan ei bod yn cael ei hadnabod yn barchus i gymaint o bobl, wedi gwasanaethu'r Gwasanaeth Iechyd ers blynyddoedd lawer, ac ni all geiriau gyfleu'r diolchgarwch haeddiannol. Nid oes amheuaeth y bydd ei chydweithwyr yn ei cholli'n fawr iawn gan gynnwys cleifion a'u teuluoedd hefyd; fodd bynnag, rwyf hefyd yn hyderus y bydd Nyrs Eirian yn sicrhau y bydd ei gwybodaeth a'i harbenigedd yn cael eu rhannu gyda'i holynydd a'i chydweithwyr. Mae hi’n ddynes arbennig a byddaf i ac eraill yn fythol ddiolchgar iddi hi a'r Tîm yn yr Uned Heamatoleg yn Ysbyty Bronglais.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i'r hyn y gall y GIG ei ddarparu. Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhodd garedig iawn hon a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiadau cleifion a staff yn yr Uned Ddydd Cemotherapi. Diolch yn fawr!"

19/12/2023