Mae disgwyl i'r gwasanaeth fflecsi Bwcabws ddod i ben ar 31 Hydref 2023.

Daw’r newyddion ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau na fyddai’n gallu cyfrannu at y cynllun yn dilyn diwedd y Grant Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) a oedd yn ei gefnogi tan ddiwedd mis Mehefin eleni.

Ers i arian y RhDG ddod i ben mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu'r gwasanaeth yn llawn.

Mae trafodaethau wedi bod ar waith dros 18 mis rhwng swyddogion o Gynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion a swyddogion o Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.

Sicrhaodd Llywodraeth Cymru fysiau newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn mor ddiweddar â mis Gorffennaf 2023 ac roedd lefel o optimistiaeth bod pethau'n mynd rhagddynt yn gadarnhaol. Mae’r newyddion nad oes cyllid ar gael i gefnogi’r gwasanaethau wrth symud ymlaen felly, yn ergyd annisgwyl a sylweddol i ddefnyddwyr yn ardaloedd mwyaf gwledig Gorllewin Cymru.

Mae'r fflecsi Bwcabws (Bwcabws gynt) wedi bod yn gweithredu ers 14 mlynedd gan roi cyfle i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Darparwyd y gwasanaeth mewn partneriaeth rhwng yr awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, a chredwyd ei fod yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer atebion trafnidiaeth wledig fel yr amlinellwyd yn ei pholisi trafnidiaeth, Llwybr Newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar faterion Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu yn y ward yr wyf yn ei chynrychioli felly rwy’n gwybod sut y bydd hyn yn effeithio ar bobl. Er ein bod yn croesawu’r uchelgais a’r dyhead y mae Llywodraeth Cymru wedi’u nodi yn ei Chynllun Trafnidiaeth, Llwybr Newydd, mewn ardaloedd gwledig, gan ein bod yn anffodus yn gweld colli neu leihau gwasanaeth oherwydd nad yw’r buddsoddiad yno ar y lefelau gofynnol i gynnal gwasanaethau fel hyn. Byddwn yn parhau yn ein lobïo ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ardaloedd gwledig yn cael cyfran deg o’r gacen, a bod yr heriau sy’n gysylltiedig â chael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn cael eu cydnabod a bod Llywodraeth Cymru yn gwarantu bod adnoddau a chyllid digonol yn cael eu darparu i sicrhau eu bod yn cael eu bodloni”.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff ac Isadeiledd: “Rwy’n hynod drist a siomedig ar ôl colli gwasanaeth gwych a ddylai fod yn derbyn cefnogaeth barhaus. Mae hyn yn newyddion hynod drist i’r rhai oedd yn dibynnu ar y gwasanaethau hyn. Roedd y gwasanaeth yn cynnig lefel o gyfle teithio ar fws na ellid ei gyrraedd trwy ddulliau eraill. Mae natur wledig yr ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu â dwysedd poblogaeth isel yn golygu nad oes màs critigol o bobl sydd eisiau teithio ar yr un pryd i’r un lleoedd sy’n golygu nad yw gwasanaethau bws traddodiadol yn gweithio. Yn anffodus, mae’n ymddangos bellach nad yw’r dull arloesol hwn sy’n cyd-fynd â’r weledigaeth yn Llwybr Newydd yn gynaliadwy ychwaith. Hoffwn ddiolch i’r holl staff a gweithredwyr a fu’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth ers dros 14 mlynedd. Ni allaf ond cydymdeimlo â nhw a’r teithwyr y bydd hyn yn effeithio arnynt a gallaf addo iddynt, gan weithio gyda’r rhanddeiliaid allweddol yn fwyaf nodedig Llywodraeth Cymru, y byddwn yn parhau yn ein hymdrechion i ddod o hyd i atebion fforddiadwy ymarferol i’r rhai yr effeithir arnynt”.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Wasanaethau Preswylwyr: “Rydym yn drist o weld colli’r gwasanaeth hwn, ac yn bryderus am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar ogledd ddwyrain wledig Sir Benfro. Byddwn yn cefnogi ein cydweithwyr cyfagos i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gefnogi darpariaeth gwasanaethau bysiau yn y maes hwn, a hefyd yn edrych ar ba atebion ymarferol a all fod ar gyfer y ddarpariaeth hon”.

Mae’r fflecsi Bwcabws wedi bod yn wasanaeth arloesol ac arobryn cenedlaethol a oedd yn cynnig lefel o gyfleoedd teithio i ganolfannau lleol ac fel modd o gael mynediad at wasanaethau bws eraill, yn fwyaf nodedig TrawsCymru, mewn canolfannau allweddol.

Bydd dyddiad wedi’i gadarnhau ynghylch pryd y bydd y gwasanaeth yn dod i ben yn cael ei ryddhau unwaith y bydd y sefyllfa ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru yn hysbys.

21/09/2023