Derbyniodd grwpiau bwyd cymunedol lyfrynnau am ddim i helpu pobl i fwyta'n iach am lai'r gaeaf hwn.

Nod y llyfryn yw lleihau gwastraff bwyd ac fe'i cynlluniwyd gan UKHarvest, sef elusen amgylcheddol. Maent wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg yn garedig fel y gall siaradwyr Cymraeg a Saesneg fanteisio ar y cynghorion a'r cyngor yn y llyfrynnau.

Mae'r llyfryn dwyieithog yn cynnwys gwybodaeth am wastraff bwyd, cynllunio prydau, gwneud y gorau o'ch siopa, storio bwyd a diogelwch bwyd a rhai ryseitiau sylfaenol. 

Derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion 1,000 o'r llyfrynnau ac maen nhw bellach yn cael eu dosbarthu ledled y sir. "Fe es i â rhai o'r taflenni i'r banc bwyd i'w rhoi allan gyda pharseli bwyd ac fe wnes i eu dangos i rai o'r bobl yn y caffi oedd yn mynd â nhw. Roedd pawb yn cytuno bod gwybodaeth ddefnyddiol iawn yn y taflenni." meddai'r Parchedig Liz Rees sy'n rhedeg Y Ffynnon yn Aberystwyth a Stordy Jiwbilî, Penparcau.

Mae'r llyfrynnau yn rhad ac am ddim i'w lawr lwytho o wefan UKHarvest, ynghyd â llawer o adnoddau defnyddiol iawn eraill: Bwyta'n well, gwario llai

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion a Chadeirydd y Gweithgor Atal Tlodi: “Yn anffodus, rydym i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sy'n wynebu pobol gyda chostau byw y gaeaf hwn. Mae'r llyfryn hwn yn llawn cynghorion defnyddiol ac ymarferol i geisio lleddfu'r faich ariannol. A chofiwch am ein gwefan 'Cymorth Costau Byw' am gynghorion a chymorth i bawb yng Ngheredigion.”

Mae’r Cyngor wedi datblygu tudalen We sy'n rhestru'r holl gymorth a chefnogaeth sydd ar gael i unrhyw un sy'n cael trafferth gyda chostau byw y gaeaf hwn. Ewch i ymweld â’r dudalen a chofiwch ei rhannu ag eraill: Cymorth Costau Byw

 

19/12/2023