Wrth i ni ddod at derfyn yr haf dyma gyfle i chi cymryd cipolwg ar raglen llawn dop sydd ar y gweill yn Theatr Felinfach dros y misoedd nesaf. Er bod y diwrnodau’n byrhau mae diwylliant a dychymyg yn parhau.

I gychwyn yr arlwy mi fydd noson o ailymweld â rhai o glasuron cerddorol Pantomeim Nadolig Theatr Felinfach mewn noson gabaret ar 15 Medi o’r enw ‘Mae’r Nadolig yn Nesáu’. Bydd yn cynnwys perfformiadau gan unawdwyr sydd wedi canu ar lwyfan y Theatr dros y blynyddoedd a hefyd cyfle i hel atgofion gyda chymeriadau hen a newydd. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael – felly cyntaf i’r felin amdani! 

Ymlaen at fis Hydref, bydd perfformiad cyfrwng Saesneg o’r ddrama un-dyn ‘Carwyn’ ar 10 Hydref wedi ei chynhyrchu gan Bale a Thomas mewn cydweithrediad â Theatr Torch, Theatr Felinfach a Theatrau RhCT. Dyma berfformiad sy’n seiliedig ar fywyd Carwyn James: yr athro, sylwebydd, hyfforddwr ac ysbïwr hyd yn oed.

Ar 21 Hydref, bydd dau berfformiad gwahanol ar gael i’w mwynhau. Yn y dydd, bydd modd profi perfformiad unigryw gan Ysgol Berfformio Theatr Felinfach ‘Porth y Gwir’, sef sioe safle benodol ar y thema hinsawdd a’r amgylchedd yn cychwyn o Theatr Felinfach ac yna draw at Goedwig Cymunedol Longwood ger Llangybi. Yn y nos, bydd Theatr Bara Caws yn dychwelyd gyda pherfformiad o ‘Draenen Ddu’, sef cyfieithiad Angharad Tomos o ‘Blackthorn’ gan Charley Miles. Bydd hefyd cyfle i weld ‘Porth y Gwir’ ar 22 Hydref.

Ar 07 Tachwedd, daw cwmni Mewn Cymeriad â sioe un ferch yn seiliedig ar fywyd yr ymgyrchydd heddwch Annie Jane Hughes Griffiths, sef ‘Annie Cwrt Mawr’ (Llangeitho). Noson o gerddoriaeth hwyliog fydd ar 11 Tachwedd gyda’r band gwerin ‘Ar Log’ a’r dihafal Dewi Pws. Sioe ddychmygus i blant fydd yn cloi mis Tachwedd sef ‘Swyn’ yn seiliedig ar lyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd perfformiadau ar 27 a 28 Tachwedd.

Pa ffordd well i gychwyn dathliadau’r Nadolig na thrwy wylio Pantomeim Nadolig Theatr Felinfach? Bydd y sioe flynyddol yn cael ei chynnal o ddydd Sadwrn 09 Rhagfyr ac yna o 11 i 16 Rhagfyr. Ymunwch â chriw Dyffryn Aeron wrth iddynt ddathlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75 oed.

Ydych chi wedi ystyried dod yn Gyfaill i Theatr Felinfach? Wrth gefnogi’r Theatr mae modd arbed arian gydol y flwyddyn, archebu’n gynnar ar gyfer rhai sioeau, mynychu nosweithiau egscliwsif a llawer mwy.

Mae modd i chi hefyd wirfoddoli trwy gydol perfformiadau trwy ddod yn stiward. Dyma gyfle gwych i ennill sgiliau newydd, derbyn hyfforddiant a phrofiad o fod yn rhan o fwrlwm diwylliant Theatr Felinfach.

Am ragor o wybodaeth ac am docynnau ewch ar wefan Theatr Felinfach theatrfelinfach.cymru neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk rhwng 9:30yb-4:30yp dydd Llun i ddydd Gwener.

Mae modd hefyd ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook ac YouTube drwy chwilio am Theatr Felinfach ac X (Twitter) ac Instagram drwy chwilio am @TheatrFelinfach

13/09/2023