Dewch i ni helpu i gadw Ceredigion yn lân yr haf hwn trwy ddelio â’n sbwriel a’n gwastraff baw cŵn yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.

Ledled Ceredigion, mae gennym amrywiaeth eang o finiau gwastraff, yn amrywio mewn maint a siâp. Rydym yn anelu at osod y math mwyaf priodol o fin i weddu’r lleoliad lle bydd yn cael effaith gadarnhaol ar lendid a’r amgylchedd lleol.

Rydym yn ystyried y nifer sy’n ymweld â’r ardal, ystyriaethau ymarferol o ran gwasanaethu’r biniau a sut y byddant yn edrych ymhob lleoliad. Ar hyn o bryd, mae dros 660 o finiau sbwriel yn cael eu defnyddio ar hyd a lled Ceredigion ac maent yn amrywio o rai bach ar bolion i finiau mawr symudol 1,100ltr, sydd wedi cael defnydd newydd ar gyfer biniau stryd lle mae’r galw a’r defnydd yn uchel, a gall y biniau hyn ddarparu’r capasiti sydd ei angen. 

Nid yw gormodedd o finiau yn edrych yn dda a gallant fod yn niwsans ac achosi problemau mewn rhai ardaloedd gan ddenu tipio anghyfreithlon neu groniadau o wastraff. Mae biniau sbwriel ar y stryd ar gyfer sbwriel wrth fynd – mae’n drosedd gosod gwastraff domestig neu fasnachol ynddynt neu wrth eu hymyl. 

Baw cŵn mewn bag

Mae ein holl finiau gwastraff cyffredinol yng Ngheredigion yn derbyn baw cŵn mewn bagiau, sy’n gwneud hyn mor hwylus, syml a hawdd â phosibl i berchnogion cŵn wneud yr hyn sy’n iawn, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol, gan gefnogi ymgyrch Eich Ci Eich Cyfrifoldeb. Mae deunyddiau sy’n codi ymwybyddiaeth o Eich Ci Eich Cyfrifoldeb wedi cael eu gosod mewn nifer o leoliadau ledled Ceredigion yn ddiweddar.

Biniau newydd yn eu lle

Gosodwyd 17 o finiau newydd yn rhan o’r paratoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn 2022. Hyd yma yn 2023, mae 26 o finiau newydd wedi’u gosod yng nghanol tref Aberystwyth ac mae biniau ychwanegol wedi’u darparu yng Ngheinewydd gyda rhaglen ehangach o ailosod biniau ar waith yn barhaus ar sail blaenoriaeth ledled Ceredigion. Yn ogystal ag ailosod biniau sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes gyda rhai newydd, rydym hefyd yn ystyried adnewyddu, diweddaru a glanhau ein fflyd o finiau sbwriel er mwyn eu cadw i edrych mor dda â phosibl.

Caru Ceredigion

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Mae gennym dîm bach ond ymroddedig iawn sy’n cynnal y gwaith o wagio biniau gwastraff trwy gydol y flwyddyn ymhob tywydd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i'r staff sy’n sicrhau bod ymwelwyr a thrigolion yn gallu mwynhau amgylchedd glân Ceredigion. Yn dibynnu ar y lleoliad a’u defnydd, bydd rhai biniau yn cael eu gwagio unwaith yr wythnos ac eraill yn cael casgliadau dair gwaith y dydd yn ystod tymor prysur yr haf. Yn amlwg, mae yna gyfyngiadau o ran adnoddau yn ymwneud â faint o finiau sydd gennym a pha mor aml y gallwn eu gwagio.

“Rydym yn ceisio gwneud y gorau a blaenoriaethu’r adnoddau o ran y biniau a’r staff sydd ar gael wrth wneud ein rhan i gadw Ceredigion yn lân er budd a mwynhad ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Mae’r ddarpariaeth a’r gwaith gwagio biniau yn un rhan o Caru Ceredigion. Hoffem ddiolch yn fawr i'r cyhoedd am weithio gyda ni wrth ddelio â’u gwastraff yn gyfrifol ac yn gyfreithlon trwy ddefnyddio bin sbwriel os oes un ar gael, neu wrth fynd â’u sbwriel adref gyda nhw, gan helpu i gadw Ceredigion fel un o’r ardaloedd glanaf yng Nghymru.”

Mae’r Adroddiad Effaith Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer 2022-2023 yn nodi bod sgôr glendid Ceredigion ar gyfer arolwg LEAMS yn 76.7, sy’n cynnwys y cyflawniad arbennig o gant y cant ar gyfer strydoedd graddfa B ac uwch.

Mae’r canlyniad rhagorol hwn wedi’i gyflawni trwy ymdrech tîm go iawn, sef yr hyn y mae Caru Ceredigion yn ei olygu. Yn ogystal â’r rhan fwyaf o ymwelwyr a phobl leol yn delio â’u gwastraff yn gyfrifol ac yn gyfreithlon yn y lle cyntaf, rydym yn gweld nifer cynyddol o wirfoddolwyr sydd eisiau cymryd rhan weithredol trwy ddylanwadu’n gadarnhaol ar faterion sy’n bwysig neu o bryder iddynt.

Mae rhanddeiliaid allweddol eraill yn cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, yn ogystal â Chadwch Gymru’n Daclus a’r Cyngor Sir sydd yn awyddus iawn i gadw Ceredigion yn lân.

06/07/2023