Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn cael ei gynnal rhwng 23 a 30 Mehefin 2023. Mae’n gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth Gwaith Ieuenctid ledled Cymru.

Beth yw Gwaith Ieuenctid?

Prif ddiben gwaith ieuenctid yw “galluogi pobl ifanc i ddatblygu’n gyfannol, gan weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, er mwyn eu galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas a gwireddu eu llawn potensial” (Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid).

Dywedodd Gethin Jones, Rheolwr Corfforaethol y Gwasanaeth Cymorth ac Atal, sy’n darparu Gwaith Ieuenctid i Gyngor Sir Ceredigion: “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i gryfhau ein cefnogaeth a’n cynnig o weithgareddau i bobl ifanc yng Ngheredigion. Rydym wedi gweld cynnydd yn ein cyfranogiad ac aelodaeth gyda’n clybiau ieuenctid, gweithgareddau penwythnos a gwyliau, ac rydym yn parhau i gefnogi tua 300 o bobl ifanc bob wythnos yn ein hysgolion uwchradd a 70 o bobl ifanc dros 16 oed yn ein cymunedau. Rydym hefyd wedi parhau i gefnogi sefydliadau cymunedol a gwirfoddol gyda mynediad i hyfforddiant Gwaith Ieuenctid, tra'n gweithio ar y cyd i ddarparu mwy o gyfleoedd ar draws y sir. Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid bob amser yn bwysig iawn i ni arddangos y gwaith rhagorol sy'n cael ei gyflwyno ond hefyd i ddathlu cyflawniadau a llwyddiannau pobl ifanc.”

Eleni, mae Ceredigion wedi trefnu cystadleuaeth ffotograffiaeth i bobl ifanc, cyfres o weithgareddau yn ystod amser egwyl yn Ysgolion Uwchradd Ceredigion gan gynnwys gweithgareddau blasu’r ddarpariaeth symudol ‘Y Fan’, nifer o ddigwyddiadau ym mhob un o’r canolfannau ieuenctid yn ymgysylltu â’r gymuned leol, gan gynnwys dathliad pen-blwydd yn 30 oed yng Nghlwb Ieuenctid Aberteifi.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes: “Rwy’n falch iawn o gefnogi Wythnos Gwaith Ieuenctid eto eleni, gan amlygu pwysigrwydd cefnogi ein pobl ifanc a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod eu positifrwydd a’u creadigrwydd yn cael ei ddal. Mae pobl ifanc mor bwysig i wead cymdeithasol ein cymunedau ac edrychaf ymlaen at weld a chlywed y straeon amrywiol yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid.”

Am fwy o wybodaeth a sut i gymryd rhan, cysylltwch â porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk neu dilynwch ni ar Facebook, Instagram a Twitter drwy chwilio GICeredigionYS.

Am esboniad cynhwysfawr o hanfodion Gwaith Ieuenctid, lawr lwythwch llyfryn Egwyddorion a Dibenion Gwaith Ieuenctid.

 

23/06/2023