Cafwyd dathliad Nadoligaidd arbennig yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Fawrth, 05 Rhagfyr 2023, dan ofal Gwasanaeth Cerdd Ceredigion.

Y gwesteion arbennig oedd Only Boys Aloud, ac roedd yn wych gweld cynifer o bobl ifanc o ysgolion uwchradd ac ysgolion gydol oed y sir yn mwynhau perfformio ar lwyfan gyda’r gerddorfa, côr y sir ac mewn ensemblau.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant: “Roedd hi’n bleser bod yn y gynulleidfa yn ystod y gyngerdd. Mae gweld talentau pobol ifanc Ceredigion bob amser yn brofiad hyfryd ond roedd y gyngerdd hon yn adlewyrchu bod gyda ni dalentau neilltuol ym meysydd corau a cherddorfeydd. Roedd y bobol ifanc yn ddisgybledig yn eu perfformiadau ond yn amlwg yn mwynhau a mae hyn yn brawf eu bod wrth eu boddau yn ymarfer a pherfformio o dan arweiniad eu hathrawon a’r arweinwyr ar y noson. Diolch i bob un fu wrthi yn paratoi at y noson ac i bawb a fu’n rhan o sicrhau llwyddiant y gyngerdd.”

Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaeth Cerdd, Dan Edwards-Phillips: “Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan ac i’r tiwtoriaid cerdd am eu hymroddiad di-flino trwy gydol y tymor – roedd hi’n noson i’w chofio!”

Os hoffech wybod mwy am Wasanaeth Cerdd Ceredigion, cysylltwch â gwasanaeth.cerdd@ceredigion.gov.uk neu ewch i’w tudalen Facebook: Gwasanaeth Cerdd Ceredigion Music Service.

15/12/2023