Mae Canolfan Lles Llambed yn paratoi cyflwyniad ar daith gymhleth y menopos ar 26 Hydref 2023.

Yn dwyn y teitl Perimenopause and Beyond: From Navigating to Mastering Midlife, mae'r sesiwn gyda Katharine Gale, sylfaenydd FluxState, yn addo cyflwyniad grymus sy'n helpu i ddeall cymhlethdodau'r cyfnod bywyd hwn. Mae cenhadaeth Katharine yn glir: rhoi’r offer angenrheidiol i fenywod lywio tirwedd heriol y menopos, gan eu llywio tuag at gyflwr o ddealltwriaeth a llif dwys.

Mae’n gyfnod addas iawn i godi ymwybyddiaeth a chynnig cymorth o ystyried bod tua 13 miliwn o fenywod yn y DU naill ai’n agosáu at y menopos neu wedi trosglwyddo, a gyda 80% o fenywod y menopos yn dal yn weithredol yn y gweithlu. Mae digwyddiad FluxState, sy'n agored i bawb, wedi'i gynllunio fel cyflwyniad cynhwysfawr ar hanfodion y menopos, gan edrych ar y cymorth sy'n hanfodol os ydyn ni am i fenywod ffynnu yn ystod y cyfnod trawsnewidiol hwn.

Roedd sgwrs ddiweddar Katharine yn nigwyddiad Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar 02 Hydref 2023 yn llwyddiant ysgubol, gyda’r lleoliad yn orlawn a chafwyd adborth cadarnhaol gan y rhai a fynychodd y digwyddiad. Roedd ei hagwedd ddeinamig wedi sicrhau bod y gynulleidfa wedi’u hysbrydoli a’i harfogi er mwyn mynd i’r afael â heriau’r menopos.

Bydd y digwyddiad yma, sydd yn rhad ac am ddim, yn cael ei gynnal rhwng 6.30 a 8.30pm a bydd yn cynnwys cyflwyniad cynhwysfawr wedi'i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb ryngweithiol, gan ganiatáu i’r rhai fydd yn bresennol drafod eu pryderon penodol. Yn ogystal, bydd lluniaeth ar gael, er mwyn creu noson gysurus a chyfeillgar.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Rwy’n falch iawn bod staff y Ganolfan Lles wedi trefnu’r digwyddiad hwn. Mae’n bryd trafod cyfnod y menopos er mwyn iddo fod yn rhywbeth naturiol i siarad amdano a’i gwneud hi’n haws i fenywod ofyn am gyngor, cymorth, cefnogaeth ac ennyn dealltwriaeth.”   

Mae’r noson yn addo cyfoeth o fewnwelediadau gyda’r nod o rymuso menywod â’r wybodaeth a’r adnoddau angenrheidiol i groesi’r cyfnod hollbwysig hwn gyda hyder. O ystyried mai nifer cyfyng o lefydd fydd ar gael, fe'ch cynghorir yn gryf i archebu lle ymlaen llaw.

Peidiwch â cholli’r cyfle i gael gwybodaeth uniongyrchol gan Katharine, hyfforddwr Ardystiedig a Nyrs Ymgynghorol brofiadol mewn Iechyd Merched.

I gadw lle, cysylltwch â Chanolfan Lles Llambed ar 01570 422552 neu leisurebookings@ceredigion.gov.uk. Am ragor o wybodaeth am Katharine a FluxState, ewch i'w gwefan.

18/10/2023