Mae cyn-gartref gofal ym Mhenparcau, Aberystwyth wedi cael ei werthu.

Gosodwyd safle’r cyn gartref gofal, Bodlondeb, ar y farchnad i ddechrau gan Gyngor Sir Ceredigion ar ôl i’r ddarpariaeth gofal preswyl a’r holl wasanaethau eraill ym Modlondeb ddod i ben yn 2018.

Rhoddwyd blaenoriaeth i brynwyr oedd yn bwriadu defnyddio'r safle i wella a hwyluso anghenion gofal cymdeithasol neu dai yng Ngheredigion, cyn iddo gael ei roi ar y farchnad agored.

Mae Bwrdd Tai Wales & West bellach wedi cwblhau’r cytundeb gwerthu ar yr eiddo.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn edrych ymlaen at weld bywyd newydd i’r adeilad hwn. Ar ôl edrych ar bob llwybr i werthu'r cyn gartref gofal, cytunwyd i werthu'r safle ar y farchnad agored. Mae cytundeb gwerthiant bellach wedi’i gytuno gyda Tai Wales & West Housing, ac rydym yn falch y bydd y safle’n cael ei ddefnyddio eto. Mae hyn yn cefnogi llawer o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor gan gynnwys creu cymunedau gofalgar ac iach.”

Wrth wneud sylw ar y datblygiad, dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar faterion Llesiant Gydol Oes: “Rydym yn falch iawn o gwblhau’r gwerthiant hwn i gymdeithas dai uchel ei pharch a fydd yn dod ag adeilad pwysig yn ôl i ddefnydd. Bydd yr arian o’r gwerthiant yn ein helpu i wella ein darpariaeth gofal cymdeithasol ar draws y sir, yn enwedig yng nghartref gofal Hafan y Waun sydd wedi dod i feddiant y Cyngor yn ddiweddar, ynghyd â lleoliadau gofal eraill yn y sir.”

Lleolir yr adeilad ym Mhenparcau, a gynrychiolir gan y Cynghorydd Carl Worrall. Ychwanegodd: “Nawr bod gwerthiant Bodlondeb wedi’i gwblhau rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Tai Wales & West ac yn gobeithio y byddant yn defnyddio’r ardal ar gyfer ein trigolion hŷn.”

Bydd derbyniadau cyfalaf o'r gwerthiant hwn yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn seilwaith gofal cymdeithasol yng Ngheredigion, gan gynnwys gwelliannau yn Hafan y Waun.

11/12/2023