Y gwanwyn hwn mae gwawr newydd yn torri o ran cynnal a chadw glaswellt yng Ngheredigion.

Dros gyfnod y gaeaf mae Tîm Cynnal a Chadw Tiroedd y Cyngor wedi bod yn brysur yn gweithio ar fanyleb newydd ar gyfer cynnal a chadw mannau glaswelltog amwynder ynghyd â chreu ardaloedd newydd ar gyfer blodau gwyllt.

Mae cyllid grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ddarparu drwy Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion wedi galluogi ni brynu offer newydd i gyflwyno’r dull newydd. Mae’r rhain yn cynnwys peiriannau ffustio a pheiriannau torri gwair robotig ac aml-ddefnydd sy’n cynnwys rac dal gwair, rhaca a byrnwr bach. Mae'r cyllid hefyd yn caniatáu darparu hyfforddiant i weithredwyr a thechnegwyr y Cyngor ar sut i ddefnyddio’r offer arbenigol yn gywir ac yn ddiogel.

Yn gynnar yn y tymor, dim ond ymylon y mannau agored mwyaf fydd yn cael eu torri gan gadw’r glaswellt rhag disgyn ar balmentydd a’r briffordd. Lle mae’r ardaloedd hyn yn ffinio â chyffyrdd, bydd mannau ychwanegol yn cael eu torri i sicrhau bod modd gweld yn glir. Bydd ardaloedd llai fel ymylon ffyrdd yn cael eu torri a’u casglu yn ôl yr arfer.

Bydd yr offer arbenigol yn ein galluogi i gynaeafu gwair gwyrdd o’r ardaloedd lle ceir blodau gwyllt a’i wasgaru mewn ardaloedd eraill i wella’r gronfa o hadau blodau gwyllt brodorol. Mae hefyd yn agor drysau i ffyrdd posib eraill o waredu â sgil-gynnyrch ar ffurf gwair neu danwydd biomas.

Mae’r peiriannau torri gwair hyn yn ddyfeisgar iawn ac yn cynnwys llawer o nodweddion diogelwch. Gall y peiriant gael ei weithredu’n ddiogel gan y gweithredwr ar bellter o 150m i ffwrdd, a gall yr uned bŵer gymryd amrywiaeth o atodiadau megis malwr tomwellt sy’n gallu torri drwy goed, eithin a drain duon, a rholer rhedyn, peiriant asglodi pren a chwythwyr eira.

Bydd gan y newidiadau nifer o fanteision gan gynnwys:

  • Mynd ati i gefnogi polisïau o ran argyfwng hinsawdd ac ymgyrch genedlaethol ‘No Mow May’
  • Galluogi’r Cyngor i gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Adfer Natur drwy gynyddu nifer y blodau gwyllt brodorol a fydd yn blodeuo ar ein hymylon glaswelltog a’n mannu agored trefol
  • Creu, adfer a gwella cynefinoedd ar gyfer infertebratau a pheillwyr
  • Lleihau ôl troed carbon gweithgarwch torri gwair y gwasanaeth
  • Cynnig ffordd amgen o waredu â gwastraff gwyrdd, yn ychwanegol i gompostio, a lleihau symudiadau’r cerbydau
  • Lleihau’r peryglon i’r gweithwyr wrth weithio ar lechweddi neu gerllaw’r briffordd

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd a Rheoli Carbon: “Rydym bob amser yn edrych am gyfleoedd i ailedrych ar sut rydym yn darparu gwasanaethau gweithredol rheng flaen. Mae’r offer newydd a brynwyd yn disodli offer a oedd yn agosáu at ddiwedd eu hoes ac maen nhw’n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth mewn ffyrdd mwy diogel, mwy effeithlon, mwy cynaliadwy ac amgylcheddol gyfrifol.”

Ychwanegodd Rachel Auckland, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Ceredigion: "Rydym wrth ein bodd bod Cynghorydd Henson, fel ein Cadeirydd a'n Hyrwyddwr Bioamrywiaeth, wedi cefnogi'r Cyngor Sir i arwain ar newid y ffordd y maent yn rheoli'r cynefinoedd glaswelltir yn eu gofal. Bydd y dull newydd hwn o dorri gwair yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i natur, hinsawdd a lles ledled Ceredigion.”

17/03/2023