Mae disgyblion clwb ar ôl ysgol Ysgol Llanilar yn mwynhau manteision cynllun cymunedol y Cyngor a gefnogir gan y prif gontractwr Wynne Construction.

Mae'r cwmni ar hyn o bryd yn adeiladu estyniad newydd yn Ysgol Uwchradd Aberaeron. Mae hyn wedi arwain at ormodedd o baletau pren a phren dros ben, sydd wedi'u rhoi i gael eu defnyddio at bwrpas arall. Ynghyd â chymorth tîm gofalwyr y Cyngor, cludwyd cyflenwad o’r coed i Ysgol Llanilar, lle mae’r disgyblion yn bwriadu gwneud taichwilod (bug hotels) a byrddau yn y sesiynau clwb ar ôl ysgol.

Roedd Rheolwr clwb ar ôl ysgol Ysgol Llanilar, Lowri Tudur, yn ddiolchgar iawn i dderbyn y deunyddiau, gan ddweud: “Ni allwn aros i ddechrau adeiladu cuddfannau a thai chwilod yn ein clwb ar ôl ysgol. Mae’r plant yn edrych ymlaen yn fawr at gael hwyl yn creu pethau bendigedig gyda’r paledi a gawsom.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’n wych gweld busnesau a gwasanaethau’r Cyngor yn cydweithio i ailgylchu, datblygu sgiliau a darparu cyfleoedd i’n pobl ifanc.”

Fel rhan o’r broses dendro, ac sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rhaid i gontractwyr nodi pa werth cymdeithasol ychwanegol a manteision cymunedol y gallant eu cyflawni o fewn cwmpas yr hyn y gellir eu cyflawni yn y contract. Gall yr effeithiau hyn ar werth cymdeithasol gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, sgiliau a hyfforddiant, prentisiaethau a meysydd eraill fel nawdd neu rodd o arbenigedd neu adnoddau staff.

Dywedodd Alison Newby, Arweinydd Budd Cymunedol Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Wynne Construction ar dri phrosiect ysgol mawr ar draws Ceredigion. Rydym yn falch o’u hagwedd ragweithiol a sut mae eu prosiectau yn cynnig buddion i’r gymuned ehangach.”

Dywedodd Alison Hourihane, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol, Wynne Construction: “Rydym yn falch iawn o fod wedi rhoi deunyddiau dros ben o’r safle i ddisgyblion Ysgol Llanilar ac edrychwn ymlaen at weld lluniau o’r tai chwilod. Rydym bob amser yn canolbwyntio ar sut y gallwn gefnogi sefydliadau lleol a thrwy’r fenter hon rydym yn ail-bwrpasu deunyddiau yn y ffordd orau bosibl.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i glywed gan unrhyw grwpiau, elusennau neu sefydliadau lleol a hoffai gael eu cynnwys yn ein ‘rhestr dymuniadau’ buddion cymunedol. Cysylltwch ag alison.newby@ceredigion.gov.uk am fwy o wybodaeth.

06/02/2023