Etholwyd y Cynghorydd David Raymond Evans yn ystod isetholiad ward Llanfarian a gynhaliwyd ddydd Iau, 20 Gorffennaf 2023.
Bydd y Cynghorydd o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynrychioli'r ward fel Cynghorydd Sir ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.
Daeth y swydd yn wag yn dilyn ymddiswyddiad y Cyn-gynghorydd Geraint Wyn Hughes ym mis Mai 2023.
Y nifer a bleidleisiodd ar gyfer yr etholiad oedd 50.9% gyda 48.2% o’r pleidleisiau yn mynd i'r Cynghorydd David Raymond Evans. Bydd yn dechrau yn ei swydd yn y dyddiau nesaf.
Ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/llanfarian/ am fwy o fanylion ac i weld y canlyniadau’n llawn.
21/07/2023