Etholwyd y Cynghorydd Shelley Childs yn ystod isetholiad ward Aberystwyth Penparcau a gynhaliwyd ddydd Iau, 16 Tachwedd 2023.
Bydd y Cynghorydd o blaid Plaid Cymru yn cynrychioli'r ward fel Cynghorydd Sir ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.
Daeth y swydd yn wag yn dilyn ymddiswyddiad y Cyn-gynghorydd Steve Davies ym mis Hydref 2023.
Y nifer a bleidleisiodd ar gyfer yr etholiad oedd 25.24% gyda 37% o’r pleidleisiau yn mynd i'r Cynghorydd Shelley Childs. Bydd yn dechrau yn ei swydd yn y dyddiau nesaf.
Ewch i https://cyngor.ceredigion.gov.uk/mgElectionAreaResults.aspx?ID=163&RPID=506420819&LLL=1 am fwy o fanylion ac i weld y canlyniadau’n llawn.
17/11/2023