Mae Adroddiad Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2022-2023 wedi cael ei gyhoeddi yn dilyn cymeradwyaeth mewn cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 06 Mehefin 2023.

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cynnydd mae’r Cyngor yn ei wneud wrth fynd i’r afael â gofynion gweithredu’r Safonau Iaith ar draws ei wasanaethau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r Cyngor wedi meithrin ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg trwy wasanaeth cyswllt cwsmeriaid Clic. Mae staff y Cyngor yn ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg wrth gyflawni eu gweithredoedd beunyddiol, ac yn cynnig dewis iaith i ddefnyddwyr gwasanaeth o’r cyswllt cyntaf.

Mae’r adroddiad yn dangos bod gan 62% o staff  y Cyngor y gallu i sgwrsio ar lafar yn Gymraeg. Mae hyn yn gyson â phroffiliau blaenorol o sgiliau’r gweithle. Mae 65 o aelodau staff yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg trwy gynllun Tiwtor Cymraeg Gwaith, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Drwy gwblhau’r Cwrs Dysgu Cymraeg Lefel uwch, mae’r Cyngor yn falch iawn i adrodd bod 21 aelod o’r gweithlu bellach yn siaradwyr Cymraeg newydd, ac wedi magu’r hyder i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau proffesiynol a phersonol.

Yn ystod y flwyddyn aeth heibio, cawsom gyfle i wobrwyo Dysgwr y Flwyddyn Cyngor Sir Ceredigion, sef Melisa Elek sy’n gweithio i Hyfforddiant Ceredigion, ac yn wreiddiol o Ganada gyda’i theulu o Groatia. Aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn medru cyfoethogi’r profiad o fyw a gweithio yng Ngheredigion ac yng Nghymru.

Ymhlith prif gyflawniadau’r flwyddyn a aeth heibio, mae’r Cyngor wedi sicrhau’r canlynol:

  • adolygu Siarter Cwsmer y Cyngor, sy’n disgrifio lefel y gwasanaeth y gall defnyddwyr ei ddisgwyl wrth gysylltu â’r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys darparu’r gwasanaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg, yn unol â dewis iaith y defnyddiwr.
  • cyhoeddi Polisi’r Gymraeg ar Ddyfarnu Grantiau, er mwyn sicrhau bod prosesau dyfarnu grantiau yn ystyried unrhyw effaith ar yr iaith Gymraeg.
  • ni chafodd y Cyngor unrhyw gwynion ynghylch gwasanaethau Cymraeg y Cyngor nac o ran gweithredu Safonau’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn adrodd. Fodd bynnag, rydym wedi adolygu proses gwynion corfforaethol y Cyngor i hwyluso’r broses o gyflwyno pryderon yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros y Gymraeg a Diwylliant: “Mae’n braf gweld bod cynnydd cadarnhaol wrth weithredu Safonau’r Gymraeg a mae’n dangos ymroddiad y Cyngor at wneud gwelliannau parhaus yn ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae gan bobl Ceredigion yr hawl i gael gwasanaeth yn eu mamiaith, ac rydym am sicrhau ein bod yn gallu diwallu hynny. Hoffen i weld mwy o drigolion y Sir yn manteisio ar y gwasanaeth Cymraeg yn amlach. Mae diffyg hyder yn eu Cymraeg yn dal yn broblem ar hyd y Sir a does dim angen iddo fod.”

Mae Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gael i’w ddarllen yn llawn ar wefan y Cyngor: Adroddiad Safonau'r Gymraeg 

12/06/2023