Roedd Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyflwyno siec o £300 fel cyfraniad i Apêl Cemotherapi Ysbyty Bronglais fis diwethaf.

Codwyd yr arian yn ystod nifer o ddigwyddiadau codi arian gan y Gwasanaeth, gan gynnwys cwis, raffl, diwrnod siwmper Nadolig, a chyfraniad o’r Ffair Nadolig a gynhaliwyd yng Nghwrtnewydd ym mis Rhagfyr. Roedd y staff wedi mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn a chodi arian i achos teilwng iawn.

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm ar gyfer Sgiliau Galwedigaethol a Dysgu, Karen Bulman, y siec i Swyddog Codi Arian Elusennau Hywel Dda, Bridget Harpwood. Esboniodd Karen: “Roedd y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wedi penderfynu dewis elusen flynyddol i'w chefnogi. Llynedd penderfynom gefnogi Uned Cemotherapi Bronglais gan ei fod yn wasanaeth mor bwysig sy’n helpu cymaint o bobl yn lleol. Mae cynnal y digwyddiadau hyn wedi rhoi’r cyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, sydd wedi bod yn wych.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Hywel Dda, yr elusen swyddogol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Wasanaeth Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Ceredigion am eu cefnogaeth, a hoffem ddiolch yn fawr i bawb am eu hymdrechion codi arian. Rydym yn falch nodi fod yr Apêl bellach wedi pasio’r targed. Fodd bynnag, yn wyneb yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym yn rhagweld bydd y costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys cyfraniadau yn y dyfodol, yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw gyllid dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rheiny a effeithir gan ganser ledled Ceredigion a chanolbarth Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion a Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau mawr i Wasanaeth Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Ceredigion am godi arian i apêl lleol llawn haeddiannol.”

Mae’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn un o’r Gwasanaethau yn Porth Cymorth Cynnar ag yn eistedd o fewn y Rhaglen Llesiant Gydol Oes (TAW). Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Clic ar 01545 570881 neu anfonwch e-bost i clic@ceredigion.gov.uk

 

06/02/2023