Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio Cynllun Tai Cymunedol newydd.

Un o brif flaenoriaethau’r Awdurdod Lleol yw tai fforddiadwy ac mae’r Cyngor yn defnyddio adnoddau sylweddol i greu a rheoli tai fforddiadwy.

Bwriad y Cynllun Tai Cymunedol yw cefnogi pobl i gael tai fforddiadwy yn eu cymunedau lleol drwy greu llwybrau tuag at fod yn berchen ar gartrefi.

Er mwyn sicrhau’r cymorth mwyaf posibl i drigolion y sir:

  • Ni fydd y ganran rhannu ecwiti y bydd y Cyngor yn ei chyfrannu at dai y gellir byw ynddynt yn fwy nag 20%
  • Hefyd, ni fydd y ganran rhannu ecwiti y bydd y Cyngor yn ei chyfrannu at eiddo gwag cofrestredig yn fwy na 40%. Mae hyn yn adlewyrchu'r costau uwch sy’n gysylltiedig â sicrhau bod modd defnyddio tai gwag fel cartrefi unwaith eto

Hefyd, rhyw ben yn y dyfodol, gall y preswylwyr fynd ati i gynyddu cyfran eu perchentyaeth.

Mae cap o £300,000 ar brisiau tai wedi’i osod ar gyfer 2023/24 a chaiff hyn ei adolygu’n flynyddol.

Rheolir y cynllun ar sail y cyntaf i'r felin ac mae’n bwysig nodi nad yw cymryd rhan yn y cynllun hwn yn atal deiliaid tai rhag derbyn cymorth arall megis y grantiau sydd ar gael ar gyfer eiddo gwag ac ati.

Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus ad-dalu swm yr arian a fenthyciwyd NEU ganran cyfatebol o werth yr eiddo, pa bynnag un sydd uchaf, ac ni all benthyciad y Cyngor fod am gyfnod sy’n hirach na chyfnod y morgais sy’n gysylltiedig â hynny.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid bodloni’r meini prawf canlynol:

  • mae’n rhaid i’r eiddo fod wedi’i leoli yn ardal awdurdod lleol Ceredigion
  • mae’n rhaid bod gan yr ymgeiswyr flaendal o 5% fan lleiaf o'r pris prynu llawn
  • mae’n rhaid i’r ymgeisydd beidio â bod yn berchen ar unrhyw eiddo arall
  • mae’n ofynnol bod yr ymgeiswyr wedi byw yng Ngheredigion am 5 mlynedd rywbryd yn ystod eu bywyd (neu mae’n rhaid cydymffurfio â’r eithriadau penodol ar gyfer Gweithiwr Allweddol / Gofalwr).
  • ni ddylai’r ymgeiswyr fod yn gallu fforddio morgais am 10% yn fwy na’r prisiad y cytunwyd arno ar gyfer yr eiddo, ar ôl tynnu i ffwrdd cyfraniad arfaethedig y Cyngor

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn falch o weld y Cynllun Tai Cymunedol yn cael ei wireddu. Mae’r cynllun wedi’i gefnogi gan y Cyngor Llawn ac mae’r cynllun yn cefnogi ein Hamcanion Llesiant Corfforaethol. Mae’n bwysig bod cyfleoedd ar gael i gefnogi pobl i fodloni eu hanghenion o ran tai fforddiadwy yn eu cymunedau lleol.”

Am fwy o wybodaeth am y cynllun a’r ffordd y gallwch chi wneud cais, ewch i Y Cynllun Tai Cymunedol ar ein gwefan.

Gallwch chi hefyd ffonio’r Tîm Polisi Cynllunio ar 01545 570881 neu anfon e-bost i ldp@ceredigion.gov.uk

 

06/11/2023