Rydym am glywed gan bobl sy’n delio â dementia beth sy’n bwysig iddyn nhw er mwyn datblygu cynllun i’r dyfodol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn symud ymlaen gyda datblygu Cynllun Dementia Lleol. Bydd hyn yn helpu i lywio ein gwasanaethau a’n dulliau gweithredu wrth geisio diwallu anghenion ein poblogaeth ar gyfer unigolion sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.

Y weledigaeth yw i Gymru fod yn ‘genedl gyfeillgar i ddementia, sy’n cydnabod hawliau pobl â dementia i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau’.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Lles Gydol Oes: “Rydym eisiau gwella gofal a phrofiad pobl sy’n byw gyda Dementia yng Ngheredigion a ledled gorllewin Cymru. Mae ymwybyddiaeth o’r cyflwr wedi datblygu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf a bydd yr ymgysylltu yn ein helpu i ddeall beth sy’n bwysig i drigolion y sir. Mae hwn yn gyfle i bobl helpu i lywio datblygiad gwasanaethau’r dyfodol fel y gall Ceredigion chwarae ei rhan lawn mewn datblygu cenedl Gymreig sy’n deall dementia.”

Derbyniodd y Cyngor arian llithriant dementia ychwanegol i gaffael asiantaeth allanol i ddatblygu strategaeth ddementia leol. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed i ddatblygu'r strategaeth ddementia ranbarthol. Roedd Attain yn llwyddiannus yn eu cais ac maent wedi'u penodi i gyflawni'r gwaith ymgysylltu.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gofalwyr, unigolion sy’n byw gyda dementia, sefydliadau trydydd parti a sefydliadau gwirfoddol yn rhan o’r gwaith ymgysylltu. Gyda mewnbwn wrth y bobl allweddol yma, bydd cynllun gweithredu lleol ar gyfer dementia yn cael ei ddatblygu.

Mae hyn yn rhan o’r Rhaglen Llesiant Gydol Oes. Mae tri gwasanaeth yn rhan ohono, sef: Porth Cymorth Cynnar, Porth Gofal a Phorth Cynnal. Mae’r rhaglen yn nodi’r pryderon llesiant sydd gan bobl yn gynnar ac yn atal uwchgyfeirio, lle bo’n bosibl, trwy ymateb mewn modd amserol a chymesur.

Medrir ymateb i’r cynllun a chael fwy o wybodaeth yma: Cynllun Gweithredu Dementia Ceredigion – Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Os ydych angen y wybodaeth mewn ffurf Hawdd i'w Ddarllen, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

Cynhelir digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd ym mis Mawrth a bydd gwybodaeth am y rhain yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Mae cyfle i gael eich dweud yn y prosiect ymgysylltu tan 31 Mawrth 2023.

10/02/2023