Cadw’n gynnes, dal ati i siarad a chymdeithasu

Mae Mannau Croeso Cynnes yn eich gwahodd i mewn ar hyd a lled Ceredigion.

Gyda 44 o Fannau Croeso Cynnes ar gael, mae gennych chi ddigonedd o gyfleoedd i gymdeithasu. Mae'r mannau yn agored i bawb ymlacio, mwynhau a chymdeithasu. O fannau i gael paned o de, powlen o gawl, cyfle i ddod â rhieni â phlant ifanc a phobl hŷn at ei gilydd i gymdeithasu, i fannau gwaith i’r rhai sydd am fynd allan o’r tŷ am ddiwrnod. Mae lle i siwtio pawb.

Esboniodd Claire a Harry Toland, sy’n gwirfoddoli yn yr Ystafell Haearn ym Man Croeso Cynnes Eglwysfach: “Mae’r sesiynau hyn, a ddechreuodd ym mis Tachwedd, wedi bod yn rhagorol. Maent yn rheswm i ni ddod at ein gilydd yn wythnosol mewn amgylchedd hamddenol a chysurus i fwynhau paned gynnes a sgwrs. Mae’r ystod oedran yn ymestyn dros 80 mlynedd! Mae gennym amrywiaeth o weithgareddau yma; ffosiliau ar un bwrdd, cyfle i rannu llyfrau, gemau bwrdd, a chryno-ddisgiau o gerddoriaeth wahanol yn cael ei chwarae bob wythnos. Daeth rhywun i mewn i weithio ar ei gliniadur; rydym wedi cynnal sesiwn ar thema’r Caribi, ar gais un o bobl y pentref; ac wedi dathlu Dydd Mawrth Ynyd trwy goginio a bwyta crempogau. Rydym yn ddiolchgar am y cyllid sydd wedi ein galluogi i gynnal y sesiynau hyn.”

Rhannwyd dros £40,000 o arian grant i’r rhai a ymgeisiodd am arian ledled y sir. Cyfrannodd yr arian hwn at y gost o gynnal y Mannau Croeso Cynnes a’r gweithgareddau.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae’r mannau yma ar gael i bawb i’w defnyddio a’u mwynhau. Maent yn dod â phobl at ei gilydd, yn ifanc ac yn hŷn, i weithio neu i gymdeithasu. Dewch o hyd i le yn eich ardal chi a chymerwch ran!”

Dywedodd Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr CAVO: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl grwpiau cymunedol ar draws Ceredigion sy’n cynnig Mannau Croeso Cynnes. Maent wedi croesawu pobl o bob cefndir i ddod at ei gilydd a darparu cyfle cymdeithasol y gaeaf hwn.”

Dewch o hyd i Fan Croeso Cynnes yn eich ardal chi ar-lein: Map o Fannau Croeso Cynnes Ceredigion neu ffoniwch Gwasanaethau Cwsmeriaid Clic ar 01545 570881 neu CAVO ar 01570 423232.

22/02/2023