Mae Bore Coffi Cymraeg wedi ei sefydlu yn Neuadd y Cwrwgl, Llechryd i roi cyfle i ddysgwyr ymarfer a chymdeithasu yn y Gymraeg.

Mae’r grŵp yn cwrdd bob ail a phedwerydd dydd Mercher am 11am, a chroesawir aelodau newydd.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered (Menter Iaith Ceredigion), trefnwyr y digwyddiad: “Dyma gyfle gwych i ddysgwyr y Gymraeg ddod at ei gilydd i gymdeithasu â dysgwyr eraill mewn awyrgylch cyfeillgar, hamddenol. Mae croeso i bawb – dysgwyr Cymraeg, siaradwyr Cymraeg rhugl a hefyd y di-Gymraeg neu unrhyw un arall sydd efallai â diddordeb mewn dysgu Cymraeg ond heb wneud hynny eto. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Amanda Edwards, sy’n cynrychioli ardal Llechryd: “Mae wedi bod yn wych gweld dysgwyr Cymraeg yn dod at ei gilydd i siarad a magu hyder i siarad Cymraeg. Trefnwyd helfa drysor yn Llechryd gan y bore coffi ym mis Gorffennaf a chymerodd dros 100 ran. Roedd yn wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn ychydig o flynyddoedd anodd iawn i bawb yn dilyn y pandemig.”

Ategodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion a chyfrifoldeb am Ddiwylliant: “Yn dilyn cyfnod anodd Covid does dim byd gwell na gweld grwpiau yn cael eu ffurfio ac yn cyfarfod o fewn ein pentrefi a’n plwyfi ac mae’r enghraifft hwn yn Llechryd, sy'n cynnig cyfleoedd i siarad Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol braf, yn wirioneddol codi calon. Diolch i bawb sydd ynghlwm â’i drefnu ac sy’n mynychu. I unrhyw un sydd o fewn cyrraedd i Llechryd, mi fydden i’n eich annog i alw mewn a phrofi pa mor hawdd yw hi i ymarfer eich Cymraeg waeth beth fo’ch sgiliau yn yr iaith. Cychwyn a chadw i siarad y Gymraeg yw’r nod.”

Am fwy o wybodaeth am Fore Coffi Cymraeg Llechryd, cysylltwch â Cered ar cered@ceredigion.gov.uk

 

20/09/2023