Bydd prosiect newydd gan Menter a Busnes yn rhoi cyfle i 24 unigolyn o Geredigion ddysgu a chael profiadau arbennig yng nghwmni rhai o entrepreneuriaid gorau’r ardal, a thu hwnt.

Mae Prosiect SPARC Ceredigion, menter newydd sbon sy’n cael ei noddi gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a’i rheoli gan Menter a Busnes yn cael ei lansio mis Medi 2023, gyda dyddiad cau’r rownd gyntaf dechrau Hydref. Bydd deuddeg llwyddiannus y rownd gyntaf yn mwynhau ystod o brofiadau dysgu gan gynnwys seminarau, gweithdai a chyfloedd mentora.

Fel rhan o’r prosiect 18-mis, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn treulio dau benwythnos preswyl yng Ngheredigion, a thri diwrnod ar daith tramor. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i’r unigolion i gwblhau tystysgrif ôl-radd lefel 7 ar Arwain Newid drwy Brifysgol Aberystwyth. Er mwyn ymgeisio ar gyfer SPARC Ceredigion, mae’n rhaid bod yn byw yng Ngheredigion ac yn hyn na 18 oed.

“Os ydych chi’n byw yng Ngheredigion ac eisiau dechrau busnes eich hun, yn hoffi’r syniad o sefydlu menter gymdeithasol, neu efallai eich bod yn awyddus i arwain, yna gallai’r cyfle arbennig hwn fod yn berffaith ar eich cyfer chi,” meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Datblygu a Gwledig Menter a Busnes.

Mae’n hanfodol bod ymgeiswyr yn rhydd i fynychu tri chyfnod hyfforddi’r prosiect, a gynhelir ar y dyddiadau canlynol:

  • 20-22 Hydref (Ceredigion)
  • 21-24 Tachwedd (Gwlad yr Iâ)
  • 8-10 Rhagfyr (Ceredigion)

Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen gais yma: Ffurflen gais SPARC

Am ragor o wybodaeth am brosiect SPARC Ceredigion a manylion ymgeisio cysylltwch â sparc@menterabusnes.co.uk

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer y rownd gyntaf, sydd â lle i 12 person, yw 10 o’r gloch y bore ar yr 2 o Hydref 2023. Bydd yr ail rownd yn cael ei chynnal yn 2024.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU, wedi ei yrru gan Ffyniant Bro.

19/09/2023