Mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion yn galw am gymorth i sicrhau bod celc o waith metel o'r Oes Efydd ac iddo bwysigrwydd cenedlaethol, yn cael aros yng Ngheredigion.

Daethpwyd o hyd i’r celc sy’n cynnwys dros hanner cant eitem yn cynnwys offer efydd, arfau ac addurniadau corff gan Craig Hearne a Kieran Slade a fu’n defnyddio datgelwyr metel yn ardal Llangeitho yn 2020.

Yn dilyn datganiad gan y Crwner bod y gwrthrychau hyn i’w cyfrif fel “trysor” yn unol a’r Ddeddf Trysor, mae cyfle bellach i’w prynu am bris o £4,200 ac mae Cyfeillion yr Amgueddfa yn awyddus i fynd ati i wneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn aros yng Ngheredigion.

Mae celc o'r Oes Efydd yn eithriadol o brin yng Ngheredigion gyda dim ond dau gofnod hanesyddol annelwig arall o ddarganfyddiadau tebyg wedi eu cofrestru. Mae’r gwrthrychau yn rhoi cyfle pwysig i ni ddysgu mwy am ddulliau a thraddodiadau gwaith metel yng Ngheredigion tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r ffaith iddynt gael eu canfod gyda’i gilydd yn awgrymu bod cynulliad sylweddol o bobl wedi dewis cyflwyno eu gwrthrychau efydd gwerthfawr i'r ddaear – gweithred a oedd yn ôl pob tebyg yn gysylltiedig a’u credoau crefyddol. 

Bu Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn ymchwilio'r mannau lle gwnaed y darganfyddiad yn fuan ar ôl i'r celc gael ei adrodd fel trysor, gyda chyllid brys yn cael ei ddarparu gan Cadw.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Rydym yn gyffrous iawn am y posibilrwydd o gadw’r darganfyddiadau hynod bwysig hyn yng Ngheredigion. Mae’r celc yn rhoi cyfle gwych i ni ddysgu mwy am ein cyndeidiau. Diolch arbennig i Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion am eu hymdrechion diflino i geisio cadw’r trysor unigryw hwn yng Ngheredigion.”

Dywedodd Bronwen Morgan, Llywydd Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion: "Mae’r darganfyddiad unigryw a phrin hwn yn un cyffrous ac yn drysor yng ngwir ystyr y gair. Fel Cyfeillion yr Amgueddfa mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth posib i sicrhau ein bod ni a’r cenedlaethau sydd i ddod yn medru gweld  a gwerthfawrogi ein treftadaeth ni yma yng Ngheredigion. Gofynnwn yn garedig felly am unrhyw gymorth ariannol posib i’n cynorthwyo i sicrhau bod  gwrthrychau sydd wedi bod yng Ngheredigion ers 3,000 o flynyddoedd yn aros yma.”

I gael gwybod mwy ac i gefnogi’r ymdrechion ewch i wefan Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion www.friendsofceredigionmuseum.com

28/11/2023