Yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a Moeseg a gynhaliwyd ar 05 Mehefin 2023, rhoddwyd cydnabyddiaeth i Caroline White am 10 mlynedd o wasanaeth i’r Pwyllgor.

Penodwyd Caroline White, sy’n gweithio fel Tiwtor Sgiliau Astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau a Moeseg ym mis Awst 2013. Fe’i hetholwyd yn Isgadeirydd ym mis Chwefror 2018, ac yna bu’n Gadeirydd y Pwyllgor oddi ar 2021.

Yn ei lle, mae aelod annibynnol newydd wedi cael ei phenodi, sef Gail Storr.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi elwa ar ddegawd o gyngor ac ystyriaethau a ddarparwyd gan Caroline. Rydym yn croesawu aelodau newydd y pwyllgor a bydd eu mewnbwn i swyddogaeth y Pwyllgor yn cael ei werthfawrogi’n fawr.”

Dywedodd Cadeirydd newydd y Pwyllgor Moeseg a Safonau, aelod annibynnol Caryl Davies: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Caroline am roi ei hamser i gyfrannu at y Pwyllgor ac am ei gwaith diflino. Hoffem hefyd groesawu ein haelod newydd, Gail Storr.”

Mae Pwyllgorau Safonau awdurdodau lleol yn bodoli i wneud popeth sy’n bosibl i hyrwyddo a diogelu’r safonau y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl yn gywir gan eu cynrychiolwyr etholedig.

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys pum aelod annibynnol, dau gynghorydd sir, a dau gynghorydd tref/cymuned.

Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac mae modd dod o hyd i adroddiadau ar gyfer y Pwyllgor Moeseg a Safonau, gan gynnwys ceisiadau am oddefeb ar wefan y Cyngor: Strwythur y Pwyllgor 

31/07/2023