Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Padarn Sant y cyfle i ymweld ag Amgueddfa Ceredigion yn ddiweddar i gymryd rhan yn y prosiect Perthyn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Amgueddfa Ceredigion wedi bod yn gweithio ar y prosiect Perthyn gan ymgysylltu â’r gymuned ac ystyried sut y gall gwerthoedd cyffredin fod o gymorth i adeiladu pontydd rhwng amrywiol cymunedau yng Ngheredigion. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi darparu cefnogaeth hael i’r prosiect.

Yn gynharach eleni, ymunodd disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Gynradd Padarn Sant â Swyddogion Cyswllt Cymunedol Perthyn, Kim James-Williams a Cath Sherrell, yn Amgueddfa Ceredigion, a mewn sesiwn fywiog cawsant fodd i fyw wrth archwilio gwrthrychau sy’n gysylltiedig â ‘ffydd’ a gweld eitemau sydd fel arfer yn cael eu cadw yn y stordy.

Dysgwyd y plant i drin a thrafod gwrthrychau’r amgueddfa yn ofalus gan ddefnyddio menyg pwrpasol a chawsant y cyfle i ofyn cwestiynau am y gwrthrychau, eu diben a’u tarddiad. Roedd y casgliad yn cynnwys cerfluniau o dduwiau Bwdhaidd a Thaoaidd yr oedd y Capten Richard Richards o Rhes yr Adeiladwyr Llongau, Aberystwyth (Tan y Cae heddiw) wedi’u casglu wrth hwylio ar draws y byd, atgynyrchiadau o lwyau dewiniaeth y Derwyddon a ganfuwyd yng Nghastell Nadolig a chopi bychan o’r Quran a gyrhaeddodd Gymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd disgyblion Padarn Sant y cyfle wedyn i drafod, ystyried a blaenoriaethu eu gwerthoedd mewn bywyd drwy gyfrwng gweithgareddau grŵp. Ymhlith y themâu a godwyd gan blant Padarn Sant oedd ‘amddiffyn yr amgylchedd, ‘diogelwch y teulu’, ‘cydraddoldeb’ a ‘meddwl agored’. Dywedodd un o’r disgyblion: “Rwy’n credu mai bod yn gymwynasgar yw’r peth pwysicaf, oherwydd os yw pawb yn garedig, mae popeth yn gweithio llawer yn well.”

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Rydym eisiau gwybod beth sy’n bwysig i bobl Ceredigion a pham fod y pethau hyn yn bwysig fel y gallwn ni fynd ati i sicrhau bod casgliadau’r Amgueddfa yn adlewyrchu eu gwerthoedd. Rydym eisiau nodi unrhyw fylchau sy’n bodoli er mwyn sicrhau bod ein casgliad yn parhau’n berthnasol i gymunedau Ceredigion, heddiw ac yn y dyfodol.”

Mae Tîm Casgliadau’r Amgueddfa wedi bod yn asesu, cofnodi a chatalogio eitemau o’r stordy.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae’n amlwg bod staff y prosiect Perthyn wedi cael budd o sgyrsiau aeddfed y disgyblion ifanc am werthoedd cymdeithasol. Mae’n braf gweld bod ymweld â’r Amgueddfa, a chael cyfle i drin gwrthrychau o wahanol grefyddau a chredoau, wedi ysbrydoli’r disgyblion a’u hysgogi i feddwl am werthoedd cymdeithas."

Ychwanegodd Carrie: “Yn ystod cyfnod y prosiect, mae nifer o grwpiau amrywiol yng Ngheredigion wedi cymryd rhan mewn cyfres fywiog o weithdai peilot. Mae pobl wedi rhoi’n hael o’u hamser ac maent wedi bod yn angerddol iawn wrth drafod gwahanol faterion megis gwerthoedd, ffydd a chasgliad Amgueddfa Ceredigion. Os oedd ganddynt ffydd ai peidio, roedd modd i bawb uniaethu â rhyw wrthrych neu’i gilydd, ac yn aml iawn, er mawr syndod iddynt, roedd pobl yn dod i sylweddoli eu bod yn rhannu nifer o werthoedd sylfaenol. Mae mwy yn gyffredin rhyngom nag y byddai rhywun yn ei ddychmygu.”

Mae Amgueddfa Ceredigion ar agor rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael drwy chwilio am Perthyn ar y dudalen hon: https://amgueddfaceredigion.cymru/

 

20/07/2023