*Gohirio: Bydd chwaraewyr a chefnogwyr yn dangos eu cefnogaeth i Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn ystod gêm bêl-droed a gynhelir yn Aberystwyth ddydd Gwener 20 Hydref 2023.

*Gohirio: oherwydd amodau gwael y tywydd, mae'r gêm rhwng Aberystwyth a'r Drenewydd wedi'i gohirio ar gyfer 20/10/2023, ac o ganlyniad y digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb cyn y gêm, gyda'r bwriad o aildrefnu yn fuan.*

Bydd Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn herio Clwb Pêl-droed Y Drenewydd mewn gêm yn Uwch Gynghrair Cymru gyda’r gic gyntaf am 8pm, yn dilyn llwyddiant digwyddiad tebyg y llynedd pan chwaraeodd Aberystwyth yn erbyn Hwlffordd.

Mae Tîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru wedi ymuno unwaith eto â Chanolfan Cymorth Casineb Cymru – Cymorth i Ddioddefwyr ynghyd â thîm Allgymorth Datblygu Cymunedol Hywel Dda, i gynnig cyngor, cymorth ac ymgysylltiad i gefnogwyr yn ystod y gêm.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyhoeddiad swyddogol cyn y gic gyntaf, baner ar ochr y cae i godi ymwybyddiaeth o Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb (HCAW) 2023, stondin wybodaeth a gweithgareddau i blant.

Bydd cefnogaeth a gwybodaeth ar gael gan Victim Support, Hywel Dda, yr Heddlu a’r Tîm Cydlyniant, yn ogystal â wal addewid lle bydd chwaraewyr, swyddogion y gêm a chefnogwyr yn cael eu hannog i adael eu negeseuon yn addo bod yn gynghreiriaid â dioddefwyr Troseddau Casineb ac i beidio byth â goddef hiliaeth na chasineb mewn chwaraeon.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Gydlyniant Cymunedol: “Mae’n wych gweld y gefnogaeth ar gyfer codi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb trwy ddigwyddiadau fel y gêm bêl-droed hon. Ni ddylai neb ddioddef trosedd casineb a byddwn yn annog unrhyw un sy’n cael y fath brofiad i gysylltu â’r Heddlu neu Cymorth i Ddioddefwyr.”

Ychwanegodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Gall profi troseddau casineb fod yn brofiad arbennig o frawychus, a gall gael effaith hirdymor ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’n cymunedau. Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rwyf wedi ymrwymo i hyrwyddo cymuned lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu a lle mae pob unigolyn yn teimlo’n ddiogel ac yn cael ei barchu.

“Mae’n braf gweld Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn chwarae eu rhan i godi ymwybyddiaeth pobl o effaith troseddau casineb yn ystod eu gêm yn erbyn y Drenewydd. Mae'r ddau glwb wedi dangos y gall chwaraeon fod yn llwyfan pwerus i godi ymwybyddiaeth yn erbyn casineb a gwahaniaethu. Y gobaith yw y bydd y gêm hon, yn ogystal â phob gweithgaredd a digwyddiad arall a gynhelir yn ystod wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, yn addysgu pobl am eu cyfrifoldebau ac yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau iddynt i’w helpu i herio’r agweddau a’r ymddygiadau sy’n arwain at droseddau casineb.”

Dywedodd Tammy Foley, Swyddog Hyfforddiant ac Ymgysylltu yng Nghanolfan Cymorth Casineb Cymru- Cymorth i Ddioddefwyr: “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn ymwneud â dangos undod i’r rhai yr effeithir arnynt a chodi ymwybyddiaeth am wasanaethau adrodd a chymorth. Mae gan sefydliadau ac unigolion rôl bwysig i'w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn ein cymunedau.

“Mae digwyddiadau fel y gêm bêl-droed hon yn enghraifft wych o gydweithio cymunedol i addysgu pobl am eu cyfrifoldebau, helpu pobl i herio’r agweddau a’r ymddygiad sy’n arwain at droseddau casineb a rhoi gwybod i bobl am y gwasanaethau hanfodol, arbenigol yn eu hardal.”

Mae hwn yn un o nifer o fentrau a digwyddiadau sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, a chefnogir y digwyddiad ymgysylltu gan nifer o asiantaethau partner gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Heddlu Dyfed-Powys, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Canolfan Cymorth Casineb Cymru – Cymorth i Ddioddefwyr, Cyngor Tref Aberystwyth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Aberystwyth, Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth, CPD Tref Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed y Drenewydd.

Adrodd am drosedd casineb

Os ydych yn profi trosedd casineb, gallwch ffonio’r heddlu ar 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol, ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ffoniwch 101.

Ffoniwch 0300 30 31 982 (am ddim 24/7) i gysylltu’n uniongyrchol â Cymorth i Ddioddefwyr. Bydd galwadau’n cael eu trin yn gyfrinachol a byddwch yn parhau’n anhysbys.

Gallwch hefyd roi gwybod ar-lein: Cymorth i Ddioddefwyr  

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Trosedd Casineb

 

16/10/2023