Cynhaliwyd digwyddiad cyhoeddus i breswylwyr ar 02 Hydref 2023 i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.

Daeth cynrychiolwyr o sectorau amrywiol ynghyd o dan yr un to yng Nghanolfan Lles Llambed gan ailddatgan eu hymrwymiad i gefnogi a grymuso pobl hŷn.

Mynychodd 127 o bobl lle roedd dros 40 o sefydliadau, gan gynnwys cynrychiolwyr o sectorau pwysig fel tai, trafnidiaeth, milwrol, cyflogaeth, addysg ac iechyd, yn bresennol i ddangos eu hymrwymiad i les unigolion 50 oed a throsodd yn y sir.

Dyma rai uchafbwyntiau allweddol y digwyddiad:

  • Cydweithio ar draws sectorau: Roedd presenoldeb sefydliadau megis tai, trafnidiaeth, milwrol, cyflogaeth, addysg ac iechyd yn pwysleisio ysbryd cydweithredol y digwyddiad. Dangosodd y gallwn ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i'n poblogaeth hŷn drwy gydweithio.
  • Mewnwelediadau arbenigol: Cafodd y mynychwyr y fraint o ymgysylltu ag arbenigwyr mewn meysydd amrywiol. O drafodaethau ar dai hygyrch i gyfleoedd cyflogaeth i bobl hŷn, roedd y digwyddiad yn llawn gwybodaeth.
  • Gwesteion dylanwadol: Derbyniodd y digwyddiad chydnabyddiaeth gyda phresenoldeb y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chynghorwyr lleol. Roedd eu presenoldeb yn cadarnhau pwysigrwydd creu cymunedau oed-gyfeillgar.
  • Ymrwymiad oed-gyfeillgar: Cadarnhaodd Cyngor Sir Ceredigion ei ymrwymiad i fod yn sir oed-gyfeillgar. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddangos y mentrau a'r rhaglenni sydd wedi'u hanelu at wella ansawdd bywyd trigolion hŷn ar draws y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Hyrwyddwr Pobl Hŷn: “Mae pobl hŷn yn byw yn hirach ac yn fwy iach na chenedlaethau blaenorol. Maent am aros yn eu cartrefi eu hunain a byw mor annibynnol â phosibl am gyhyd ag y bo modd. Felly mae'n bwysig bod gwasanaethau bellach wedi'u teilwra i gyd-fynd â'r dyhead hwnnw. Ar gyfer henaint iachach, mae ymchwil yn dangos pwysigrwydd cadw'n heini, bod yn gymdeithasol a bwyta'n iach. A does dim lle gwell i wneud yr holl bethau hynny na Cheredigion."

Hoffai Ceredigion Actif a Thîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion ddiolch i bawb a fynychodd yn ogystal â helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.

 

09/10/2023