Bu wythnos Eisteddfod yr Urdd yn un arbennig o lwyddiannus i blant a phobl ifanc Ceredigion eleni wrth i’r Sir gipio’r wobr am y marciau uchaf ar draws holl gystadlaethau’r Eisteddfod.

Wedi’r misoedd o baratoi roedd gallu cipio’r brif wobr am y marciau uchaf yn benllanw teilwng i’r holl waith caled. Cafwyd cyfanswm o 152 medal i Geredigion gan ennill y blaen ar weddill Cymru.

Tra bod yr haul yn gwenu ar faes yr Eisteddfod yn Llanymddyfri bu unigolion, ysgolion ac Aelwydydd Ceredigion yn cystadlu’n frwd mewn ystod eang o gystadlaethau gan gynnwys cerdd, llefaru, drama, dawnsio, barddoniaeth a llenyddiaeth ynghyd a chystadlaethau gwyddoniaeth, technoleg, celf a sgiliau galwedigaethol. 

Braf hefyd oedd gweld Elain Roberts o Gei Newydd yn cipio un o brif wobrau‘r wythnos sef Y Fedal Ddrama i rai dan 25 oed.

Y Cynghorydd Catrin M S Davies yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiwylliant. Dywedodd: “Mae gweld ein pobl ifanc yn dod i’r brig yn wych ond efallai mae’r hyn sydd bwysicaf yw’r cyfleoedd mae’r Urdd wedi eu rhoi i’n pobl ifanc ni i fwynhau profiadau diwylliannol a chreadigol nid yn unig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ond hefyd mewn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth.

Llongyfarchiadau gwresog i’n cystadleuwyr, eu hathrawon a’u hyfforddwyr a diolch hefyd i Swyddogion yr Urdd am yr ysbrydoliaeth.”

09/06/2023