Gofynnir i drigolion a grwpiau sydd â diddordeb yng Ngheredigion am eu barn am ardaloedd cadwraeth Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron.
Mae ardaloedd cadwraeth yn leoedd penodol o rinweddau pensaernïol neu bwysigrwydd hanesyddol arbennig, ac mae Ceredigion yn ffodus iawn i gael cyfanswm o 13. Mae'n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion, o bryd i'w gilydd, adolygu'r ardaloedd hyn a llunio cynigion ar gyfer eu cadw a'u gwella.
I wneud hyn, mae'r Cyngor yn diweddaru ei Arfarniadau Ardal Gadwraeth i nodi beth sy'n gwneud ardal yn arbennig ac unrhyw gyfleoedd neu broblemau a allai fodoli. Mae hyn yn sail ar gyfer cynlluniau rheoli manylach sy'n nodi ymatebion priodol i fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r materion hyn.
Mae'r Cyngor wedi comisiynu Griffiths Heritage Consultancy i gefnogi a datblygu Arfarniadau Ardaloedd Cadwraeth a Chynlluniau Rheoli ar gyfer 6 tref Ceredigion fel rhan o waith Creu Lleoedd ehangach y mae wedi bod yn ei wneud. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Elfen bwysig o'r gwaith hwn yw casglu gwybodaeth leol am yr ardaloedd cadwraeth a deall sut mae pobl yn gweld yr ardaloedd. Os hoffech chi ein helpu i lunio'r arfarniadau ardal gadwraeth a'r cynlluniau rheoli ar gyfer Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron, neu os hoffech ddysgu mwy am yr ardaloedd cadwraeth, dewch draw i un o'r digwyddiadau galw heibio canlynol:
Dyddiad |
Tref |
Lleoliad |
Amser |
Dydd Iau, 25 Ionawr 2024 |
Tregaron |
Y Talbot |
4pm-6pm |
Dydd Gwener, 26 Ionawr 2024 |
Llandysul |
Y Porth |
4pm-6pm |
Dydd Iau, 8 Chwefror 2024 |
Llanbedr Pont Steffan |
Creuddyn |
4pm-6pm |
Neu, os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr rhanddeiliaid, neu am unrhyw fanylion eraill, cysylltwch â Gwasanaeth Polisi Cynllunio y Cyngor drwy e-bostio ldp@ceredigion.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: "Byddwn yn annog pob unigolyn sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y gwaith hwn, fel y gellir ystyried barn a gwybodaeth trigolion a sefydliadau i sicrhau bod treftadaeth arbennig Ceredigion yn cael ei rheoli am genedlaethau i ddod."
I gael gwybod mwy am y gwaith creu lleoedd ehangach ar gyfer 6 tref Ceredigion, ewch i www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/cynllunio-rheoli-adeiladu/creu-lleoedd/
27/12/2023