Bydd y newid i derfyn cyflymder 20mya diofyn cenedlaethol ar ffyrdd cyfyngedig/golau stryd ledled Cymru, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dod i rym ddydd Sul 17 Medi 2023.

Bydd Staff Priffyrdd Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i newid arwyddion ar y rhwydwaith ffyrdd sirol cyn gynted â phosibl, gyda Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyflwyno’r newidiadau ar Gefnffyrdd yr A487 a’r A44.

Oherwydd logisteg y dasg, rhagwelir y bydd newid arwyddion ym mhob lleoliad ar draws y rhwydwaith ffyrdd sirol lle bydd y terfyn cyflymder yn newid yn cymryd nifer o ddyddiau i’w gwblhau, a bydd y gwaith yn dechrau ar 17 Medi.

Y Cynghorydd Keith Henson yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Briffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Bydd y terfyn cyflymder newydd o 20mya yn newid sylweddol i fodurwyr. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio y bydd y newid yn cael effaith gadarnhaol ar feicwyr a cherddwyr megis plant, pobl ag anableddau a phobl hŷn. Bydd hefyd yn dod â gwelliannau iechyd cysylltiedig, yn lleihau traffig modurol, allyriadau carbon a thagfeydd ac yn gwneud i gymunedau deimlo'n fwy diogel a chysylltiedig a rhoi hwb i fusnesau lleol. Hoffwn ddiolch i’r tîm Priffyrdd am eu gwaith caled yn rhoi’r arwyddion newydd ar waith ledled y sir.”

Wrth baratoi ar gyfer gweithredu'r newidiadau cenedlaethol yng Ngheredigion, mae'r Cyngor Sir wedi gwneud y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig gofynnol, ac unwaith y bydd yr arwyddion ffordd 20mya newydd yn eu lle ar y ffordd, bydd y terfyn cyflymder newydd mewn grym.

Anogir aelodau'r cyhoedd i gydymffurfio â'r terfynau cyflymder presennol a pharatoi i gadw at y terfyn cyflymder 20mya newydd lle bo'r rhain yn berthnasol.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau cenedlaethol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Yn fwy diogel ar 20mya: Beth am edrych allan am ein gilydd 

15/09/2023