I gloi blwyddyn lwyddiannus i Wasanaeth Cerdd Ceredigion, bu disgyblion ysgol o'r gwasanaeth cerdd yn perfformio mewn dau Gyngerdd Prom arbennig.

Wedi eu cynnal yn Y Neuadd Fawr yn Aberystwyth ac ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ddechrau Gorffennaf, perfformiodd dros 500 o ddisgyblion gyda’r neuaddau yn orlawn o gefnogwyr.

Cafodd disgyblion y sir a oedd wedi ennill yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eu cynnwys ar gyfer y ddau ddigwyddiad ac roedd yn gyfle i longyfarch yr holl gystadleuwyr y sir gan gofio bod Ceredigion wedi dod i frig tabl y medalau ar ddiwedd wythnos lwyddiannus o gystadlu yn Sir Gar.

Dyma’r tro cyntaf i’r Proms gael eu cynnal ers dros tair mlynedd felly roedd y nosweithiau yn brofiad twym galon i bawb ac yn gyfle i staff y Gwasanaeth Cerdd weld ffrwyth eu llafur wedi cyfnod heriol y pandemig.

Mae’r Gwasanaeth yn ddiolchgar iawn i Only Men Aloud am wahodd Côr Uwchradd Ceredigion i rannu llwyfan gyda hwy yng Nghastell Aberteifi mewn cyngerdd fythgofiadwy fel rhan o gyfres o gyngherddau Haf y Castell.

Dywedodd Dan Edwards Phillips, Rheolwr y Gwasanaeth Cerdd: “Yn sicr roedd y nosweithiau yn binacl ar flwyddyn lewyrchus i gerddoriaeth a’r Gwasanaeth Cerdd yng Ngheredigion. Gyda chynlluniau cyffrous, newydd ar y gweill fel rhan o’r Cynllun Cerdd Cenedlaethol edrychwn ymlaen nawr at flwyddyn lewyrchus arall!”

Am y wybodaeth ddiweddaraf ar y Gwasanaeth Cerdd, edrychwch ar eu tudalen Facebook 'Gwasanaeth Cerdd Ceredigion Music Service'.

03/08/2023