Mae’r Cyngor yn hynod ddiolchgar i geidwaid adar yng Ngheredigion sydd wedi gweithio’n galed i gadw achosion o’r ffliw adar allan o unrhyw heidiau yn yr ardal.

Daeth y mesurau gorfodol i gadw dofednod dan do i ben yng Nghymru ar 18 Ebrill 2023; fodd bynnag, nid yw’r clefyd wedi diflannu.

Yn anffodus, mae sawl achos mewn awdurdodau cyfagos sy’n golygu ei bod yr un mor bwysig i geidwaid adar sicrhau mesurau bioddiogelwch trwyadl a pharhau’n wyliadwrus.

Er mwyn atal unrhyw glefyd mewn heidiau o ddofednod masnachol neu heidiau iard gefn, mae’n ofyniad gorfodol i holl geidwaid dofednod yng Ngheredigion roi amrywiaeth o fesurau bioddiogelwch ar waith er mwyn lleihau’r risg a lledaeniad unrhyw glefyd, sef yr amddiffyniad gorau.

Rhaid i geidwaid dofednod wneud y canlynol:

  • Diheintio a glanhau dillad ar ôl dod i gysylltiad â dofednod.
  • Lleihau symudiadau pobl/cerbydau i mewn ac allan o ardaloedd lle mae dofednod.
  • Glanhau a chynnal a chadw llety dofednod yn rheolaidd a sicrhau na all adar gwyllt gael mynediad trwy unrhyw dyllau. Glanhau’r arwynebau caled a’r cyfarpar, er enghraifft yr offer bwydo a’r hyn sy’n dal yr wyau. Dilynwch y gyfradd wanhau gywir ar gyfer unrhyw ddiheintydd a ddefnyddir.
  • Lleihau cyswllt rhwng dofednod ac adar gwyllt. Sicrhau na alla adar gwyllt gael mynediad at fwyd na chyflenwad dŵr y dofednod oherwydd gallent eu halogi.
  • Darparu ardaloedd diheintio ger mynedfeydd ac allanfeydd y mannau lle cedwir dofednod.
  • Rheoli cnofilod gan fod llygod a chnofilod eraill yn gallu cario clefydau, felly dylid rhoi system rheoli plâu effeithiol ar waith. Sicrhau gweithdrefn ddiogel os defnyddir gwenwyn llygod.
  • Gall cwblhau’r hunanasesiad bioddiogelwch gorfodol helpu ceidwaid i nodi’r mesurau y mae angen eu cymryd. Gellir dod o hyd i’r asesiad yma: Biosecurity Self-assessment Checklist (gwefan Saesneg).
  • Parhau’n wyliadwrus ac yn ymwybodol o arwyddion o glefyd ffliw adar, ac adar gwyllt marw. Mae arwyddion o ffliw adar mewn adar yn cynnwys marwolaeth sydyn, pen chwyddedig, syrthni, adenydd yn disgyn, llusgo’r coesau, sŵn rhuglo/clecian wrth anadlu, twymyn, carthion dyfrllyd.

Er eglurhad, gall rhai rhywogaethau fel hwyaid a gwyddau gario’r clefyd heb ddangos unrhyw arwyddion o salwch.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd: “Rydym yn ddiolchgar i geidwaid adar yng Ngheredigion am gymryd camau i atal lledaenu’r clefyd. Mae dal yr un mor bwysig i ddilyn y mesurau amddiffynnol ac adrodd am unrhyw achosion a amheuir o Ffliw Adar.”

Rhaid i unrhyw un sy’n cadw mwy na 50 o adar gofrestru eu haid gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA): APHA Registration (gwefan Saesneg) 

Nodwyd achos newydd o Ffliw Adar H5N1 ger y Drenewydd ym Mhowys ar 27 Ebrill 2023. Felly, mae’n hollbwysig bod ceidwaid yng Ngheredigion yn parhau’n wyliadwrus.

Os byddwch yn gweld arwyddion o glefyd, neu os ydych yn amau bod aderyn unigol/heidiau yn sâl neu wedi’u heintio, ffoniwch APHA yn syth ar 0300 303 8268 neu dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 570881.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: Y diweddaraf am Ffliw Adar 

05/05/2023