Mae prosiect diweddaraf Cyngor Sir Ceredigion i wella cyfleusterau chwaraeon a hamdden y sir wedi derbyn hwb o £204,000 o'r rownd ddiweddaraf o gyllid cyfalaf Chwaraeon Cymru.

Nod y prosiect yw uwchraddio ardal y cyrtiau tennis sydd â llifoleuadau ger Canolfan Hamdden Plascrug nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i fod yn gyfleuster aml-chwaraeon pob tywydd.

Mae gwaith cychwynnol yn cael ei wneud ar hyn o bryd er mwyn paratoi a chwrdd ag amodau'r grant. Y nod yw cynnal y gwaith adeiladu dros fisoedd yr haf.

Bydd yr uwchraddio yma yn Nghanolfan Hamdden Plascrug yn golygu bod pedwar cyfleuster pob tywydd yn cael eu cynnal gan Gyngor Sir Ceredigion. Eisoes wedi eu gorffen mae’r Caeau 3G yn Aberteifi a Synod Inn, a'r carped newydd yn Llanbedr Pont Steffan, ac maent i gyd wedi elwa ar fuddsoddiad Chwaraeon Cymru. Bydd cyfanswm buddsoddiad o £1.2m wedi'i wneud yn y pedwar cyfleuster pob tywydd ar draws y sir.

Derbyniwyd arian ar gyfer y caeau arwyneb 3G gan Chwaraeon Cymru, Cronfa Llawr Gwlad Cymru a Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyda Chwaraeon Cymru hefyd yn cefnogi prosiect Llanbed. 

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M.S Davies, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: "Bydd y cyfleusterau hyn yn rhoi cyfleoedd i drigolion Ceredigion, o bob oed, i fod yn egnïol yn gorfforol ac i fwynhau chwaraeon tîm; ac yn rhan o'r ymdrech barhaus i greu Cymunedau Iach ledled y sir. Mae darparu cyfleusterau hamdden cyfoes a hygyrch ar draws gogledd, canolbarth a de Ceredigion hefyd yn cyflawni un o’r ymrwymiadau o'n Strategaeth Gorfforaethol newydd. Hoffem ddiolch i'r holl gyrff cyllido sydd wedi gweithio gyda ni i greu'r cyfleusterau gwych hyn.”

Gallwch ymweld â gwefan Ceredigion Actif, neu ddilyn @CeredigionActif ar y cyfryngau cymdeithasol, i ddod o hyd i gyfleoedd a chyfleusterau hamdden yn eich ardal chi: www.ceredigionactif.org.uk/indexc.html

06/04/2023