Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol y Deyrnas Unedig wedi dyfarnu £4 miliwn i 18 o brosiectau yng Nghymru yn eu rownd ddiweddaraf o geisiadau, gydag un sefydliad yn benodol o Geredigion yn derbyn £300,000 o’r Gronfa.

Dyrannwyd £300,00 i Fenter Tafarn Cymunedol Dyffryn Aeron yn dilyn eu cais i’r Gronfa yn gynharach eleni.

Bwriad y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yw helpu i sicrhau y gall cymunedau ledled y Deyrnas Unedig gefnogi a pharhau i elwa o'r cyfleusterau, asedau cymunedol a'r amwynderau lleol sydd bwysicaf iddynt.

Gallwch wneud cais am gyllid os yw eich sefydliad, eich prosiect, a'r ased rydych chi am ei arbed yn bodloni gofynion cymhwysedd penodol. Gellir gweld y gofynion yn Brosbectws y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar wefan gov.uk.

Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol ymgeisio am gyllid cyfatebol i gaffael asedau pwysig a’u rhedeg er budd y gymuned leol.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Llongyfarchiadau i'r sefydliadau sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am y gronfa hon, y diweddaraf yw Tafarn Cymunedol Dyffryn Aeron a Neuadd Gymunedol Aberporth a HAHAV yn Aberystwyth yn gynharach yn y cynllun. Mae'n gyfle gwych i grwpiau gwirfoddol a chymunedol dderbyn cyllid i arbed asedau a fyddai fel arall yn cael eu colli. Mae'n sicr yn gais sy'n haeddu cael ei gyflwyno felly rwy'n annog y rhai sydd â diddordeb i wneud cais yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach."

Mae'r gronfa Ffenestr 2 Rownd 3 ar agor ar hyn o bryd tan 11:59yb 11 Hydref, 2023. Mae 4 ffenestr ymgeisio bob blwyddyn, ond mae'r cyfnod mynegi diddordeb bob amser ar agor.

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cau yn fis Mawrth 2025. Am ragor o wybodaeth am y Gronfa neu sut i wneud cais ewch i www.gov.uk/government/publications/community-ownership-fund-prospectus.cy

26/09/2023