Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i fod yn un o’r siroedd gwledig sydd a’r cyswllt gorau yn y DU, gyda'r nod o wella pob math o gysylltedd sefydlog a symudol er mwyn cefnogi twf busnes, yr economi, ansawdd bywyd trigolion, twristiaeth a'r amgylchedd. Ar hyn o bryd mae nifer o brosiectau yn cael eu cynnal er mwyn cyflawni hyn drwy amrywiol gynlluniau ac opsiynau ariannu; un o'r rhain yw cais Openreach i ddod â band eang ffeibr cyflawn cyflym a dibynadwy iawn i gartrefi a busnesau lleol yn Nhregaron.

Mae Openreach wedi nodi bod Tregaron yn ymgeisydd cryf ar gyfer rhwydwaith ffeibr llawn. Fodd bynnag, elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant y prosiect yw gallu'r cymunedau i ddangos fod galw amdano trwy gyflwyno Talebau Gigabit Llywodraeth y DU-sydd yn rhad ac am ddim-i brosiect Openreach er mwyn cyrraedd y trothwy cyllido sydd ei angen.

Bydd defnyddio’r talebau-sy’n costio dim i’r trigolion-yn dilysu fod diddordeb gan y gymuned ac yn hanfodol i ryddhau cyllid o Lywodraeth y DU a fydd yn galluogi Openreach i weithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu ac addasu, rhwydwaith wedi’i ariannu ar y cyd.

Dywedodd Cynghorydd Sir Ceredigion, Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: "Nid yw technoleg ffeibr llawn yn ymwneud â rhyngrwyd cyflymach yn unig. Mae'n ymwneud ag adeiladu seilwaith digidol mwy dibynadwy, gwydn a diogel ar gyfer y dyfodol ar gyfer Tregaron. Rydym yn awyddus i weld datblygiadau digidol fel hyn yn ffynnu ac mae'n bwysig iawn bod y gymuned yn dangos eu cefnogaeth - dydyn ni ddim eisiau i Dregaron golli allan. Bydd y prosiect hwn o fudd nid yn unig i gartrefi ond hefyd i fusnesau lleol, ysgolion a gwasanaethau gofal iechyd. Gan obeithio y bydd y prosiect yn digwydd yn Nhregaron, bydd hyn wedyn yn paratoi'r ffordd i brosiectau tebyg ar draws Ceredigion."

Mae technoleg ffeibr llawn yn darparu ymgysyllted mwy dibynadwy, gwydn a pharod at y dyfodol; llai o broblemau; cyflymder sy’’n medru eu rhagweld a chyson yn well gyda digon o gapasiti i gwrdd â gofynion data cynyddol yn rhwydd. Mae hefyd yn paratoi at y dyfodol, sy’n golygu y bydd yn medru gwasanaethu’r cenedlaethau’r dyfodol heb yr angen i ddiweddaru’r cyswllt am ddegawdau.

Mae Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaeth Cymru Openreach, yn pwysleisio pwysigrwydd cyfranogiad cymunedol: "Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl Tregaron ddod â holl fanteision band eang ffeibr llawn cyflym a dibynadwy iawn i'w cymuned. Ond mae adeiladu'r rhwydwaith yn y lleoliadau anghysbell, sy’n anodd ei cyrraedd yn heriol, a dyna pam mai dim ond wrth i bawb gyd-weithio y bydd yn bosibl."

Gall trigolion Tregaron gyflwyno’u talebau trwy ‘r wefan Cysylltu fy Nghymuned (openreach.com): https://www.openreach.com/connectmycommunity

Am fwy o wybodaeth am brosiectau digidol yng Ngheredigion, ewch i: https://www.ceredigion.gov.uk/business/ceredigital/

15/09/2023