Mae Gwydr Rhufeinig Prin a geir yn fila Eingl-Rufeinig yn Abermagwr bellach i'w weld yn Oriel Archaeoleg Amgueddfa Ceredigion.

Yn 2021, denodd partneriaeth rhwng Amgueddfa Ceredigion a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru £1,000 o gyllid gan y Gymdeithas Archaeoleg Rufeinig (GAR/ARA) i arddangos darnau o lestr wydr Rhufeinig a ddarganfuwyd yn y fila Eingl-Rufeinig yn Abermagwr.

Darganfuwyd y fila yn Abermagwr yn ystod awyrluniau yn 2006 a'i gloddio gan Dr Jeffrey L. Davies a Dr Toby Driver rhwng 2010 a 2015, mewn prosiect cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr. Mae'n parhau i fod yr unig fila Rufeinig hysbys yn y sir a'r fila Rufeinig fwyaf anghysbell yng Nghymru. Ymchwiliwyd i'r darganfyddiadau dros amser ac mae'r gorau wedi'u harddangos yn gyhoeddus yn Amgueddfa Ceredigion. Mae'r darganfyddiadau'n cynnwys rhannau o do llechi cynharaf hysbys Ceredigion, sydd ond yn un o'r datblygiadau arloesol a ddarganfuwyd yn y fila.

Y darnau gwydr yw’r darganfyddiadau mwyaf diweddar a roddwyd i'r amgueddfa. Gwnaeth grant y GAR/ARA ariannu mownt pwrpasol, a wnaed gan arbenigwr amgueddfa, i alluogi'r darnau gwydr cain gael lle blaenllaw yn oriel archaeoleg yr Amgueddfa.

Mae gwydr nadd Rhufeinig yn brin; dim ond un diodlestr gwydr nadd sy'n cael ei arddangos yn barhaol yn yr Amgueddfa Brydeinig ac mae dyluniad gwydr Abermagwr yn unigryw ym Mhrydain Rufeinig. Cafodd yr Athro Jennifer Price ei tharo gan brinder ac ansawdd y llestr wydr gan ei disgrifio “o ansawdd rhagorol o uchel…. [Rhaid bod] wedi bod yn eitem anhygoel o foethus. Mae ei ansawdd yn sylweddol uwch na gweddill y llestri gwydr a geir yn y fila”.

Dywedodd yr Athro Barry Burnham o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan: “Mae ei ddarganfyddiad mor bell i'r gorllewin yng Nghymru yn bwysicach fyth oherwydd ei fod yn llawer uwch na'r ystod gyffredinol o ddeunydd gwydr a geir yn unrhyw le yn y dywysogaeth. Mae hyn yn codi cwestiynau diddorol ynglŷn â sut y daeth i fod yma, pwy oedd yn berchen arno, a’r hyn y mae’n ei ddynodi o ran statws cymdeithasol a chysylltiadau economaidd.”

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Pan oeddwn i yn yr ysgol fe’n dysgwyd nad oedd gan y Rhufeiniaid bresenoldeb sylweddol yng Ngorllewin Cymru, ond mae canlyniadau cloddio lleol wedi gwyrdroi’r dybiaeth honno. Mae'r gwrthrych rhyfeddol hwn yn dangos bod y fila yn Abermagwr yn gartref i Rufeiniaid cymharol gyfoethog a oedd yn mwynhau'r pethau da mewn bywyd. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r GAR/ARA am y cyllid a fydd yn galluogi ymwelwyr â'r amgueddfa i'w weld yn cael ei arddangos ar ei orau."

Catrin M.S. Davies yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid. Dywedodd: “Difyr iawn clywed am y gwydr nadd Rhufeinig prin yma yng Ngheredigion. Diolch i Carrie a’r tîm yn Amgueddfa Ceredigion a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru am eu gwaith a’r Gymdeithas Archaeoleg Rufeinig. Edrychaf ymlaen at weld y darnau yn yr amgueddfa gan ei bod yn bwysig ein bod ni yn ymwybodol o’n gorffennol ac yn ei barchu ac yn dysgu ohono.”

Mae Amgueddfa Ceredigion ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 10yb – 5yp. Am fwy o wybodaeth am yr amgueddfa, ewch i ceredigionmuseum.wales/hafan/

 

17/02/2023