Ar 17 Tachwedd 2023, cynrychiolodd Aled Lewis, sef Aelod Senedd Ieuenctid y DU (ASI) Ceredigion, y sir yn nadl fyw flynyddol Senedd Ieuenctid y DU yn Nhŷ’r Cyffredin, Llundain. Yn cadeirio’r ddadl oedd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle.

Daeth 224 o bobl ifanc, rhwng 11 a 18 oed o bob rhan o’r DU ynghyd yn y Senedd i drafod materion cyfoes sy’n wynebu plant a phobl ifanc, wrth ganolbwyntio’n bennaf ar sicrwydd bwyd i blant a phobl ifanc.

Dywedodd Aled Lewis, disgybl Ysgol Gyfun Aberaeron: “Roedd yn fraint cael cynrychioli pobl ifanc Ceredigion yn Nhŷ’r Cyffredin yn nadl flynyddol Senedd Ieuenctid y DU eleni. Cafwyd llawer o areithiau ysbrydoledig gan bobl ifanc ledled y DU, yn hyrwyddo materion sy’n bwysig iddyn nhw a’u hetholaethau. Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i godi eu llais a chyfleoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am waith Aelodau Seneddol a llywodraeth y DU.”

Dywedodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle: “Mae mor bwysig ein bod ni, fel gwleidyddion, yn clywed barn pobl ifanc, a dyna pam rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gadeirio Senedd Ieuenctid y DU eleni.”

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Ceredigion: “Mae Ceredigion wedi cefnogi pobl ifanc leol i gymryd rhan yn y rhaglen UKYP, gan gynnwys y drafodaeth fyw, ers 2015. Mae'n brofiad gwerthfawr i ASI Ceredigion gwrdd ag eraill a chael teimlad o sut brofiad yw dadlau materion go iawn yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’n gyfle i ni sicrhau bod llais pobl ifanc Ceredigion yn cael ei glywed ar lefel genedlaethol. Hoffwn ddiolch i Aled wrth iddo ddod i ddiwedd ei dymor fel ASI Ceredigion ar gyfer 2022-23, a’i longyfarch ar ei holl waith caled a’i gyflawniadau yn ystod ei gyfnod yn y swydd.”

Gellir gwylio'r dadleuon yn ôl ar ‘Parliament TV’ drwy ddilyn y dolenni hyn; Parliamentlive.tv - UK Youth Parliament (sesiwn bore) a Parliamentlive.tv - UK Youth Parliament (sesiwn prynhawn).

27/11/2023